Dathlu ein Gwirfoddolwyr

Written by Tir Coed / Dydd Iau 30 Awst 2018


Mae cangen Ceredigion o Tir Coed wedi bod yn rhedeg sesiynau gwirfoddoli bob dydd Llun yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian, i wneud tasgau cadwraeth hanfodol yn y goedwig. Mae’r sesiynau wedi bod yn rhedeg er ddiwedd mis Ebrill ac ar y 18fed o Awst cynhaliwyd barbeciw i ddathlu ac i ddweud diolch wrth y gwirfoddolwyr am eu gwaith caled ac i gydnabod yr ymdrech a’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos.

Rydym wedi cael cyfanswm o 18 gwirfoddolwr sydd wedi cyfrannu 840 awr o wirfoddoli.

Mae’r gwirfoddolwyr wedi cyflawni cymaint mewn 16 wythnos, gan gynnwys gwella’r mynediad drwy dorri a symud coed sydd wedi cwympo ac yn cau llwybrau, clirio gloesigion, coed marw a llystyfiant i ail-agor 2.2 milltir o lwybrau, 0.13 milltir o lenwi tyllau yn y ffordd i’r safle, mae’r llwybr rhwng y tŷ crwn a’r pwll tân wedi’i glirio gydag ymylon, ac y mae’r staciau pren wedi’u torri i mewn i logiau a’u tacluso yn barod i’w gwerthu. Mae hyn wedi datgelu ardal wastad ble rydym wedi gosod cerrig camu pren fel rhan o'r ardal chwarae/gweithgaredd yr ydym yn bwriadu'i greu ar gyfer plant.


Mae’r staciau pren ansefydlog wedi’u symud o’r maes parcio i agor ardal mwy ar gyfer troi a gwneud yr ardal yn fwy diogel ac yn daclusach. Mae 2 set o reiliau ‘rustic’ wedi’u cerfio a’i gosod ar hyd y grisiau sy’n arwain at y gweithdy ac ardal y caban. Mae’r coedd sydd wedi torri mewn gwynt cryf oedd yn dal i hongian wedi’u tynnu o uwchben llwybrau i leihau’r risg i ymwelwyr. Mae gosodiadau a meinciau wedi’u trwsio neu’u hadnewyddu ac rydym yn datblygu syniadau i wella’r safle dros yr hydref, yn barod at y gwanwyn.

   


Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi galluogi Tir Coed i barhau gyda gwaith cadwraeth hanfodol a ddechreuwyd gan gyfranogwyr y cyrsiau hyfforddi, sy’n gwneud y goedwig yn le mwy diogel a hygyrch i ymwelwyr a’r gymuned leol. Mae’r gwaith a wnaed yn gwella bioamrywiaeth drwy alluogi ffawna’r ddaear fel blodau gwyllt i ffynnu ac yn gwella adfywiad naturiol rhywogaethau brodorol gan gynyddu lefel y golau a lleihau cystadleuaeth.

 

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed