Wythnos Dilyniant

Cyniga Tir Coed cyrsiau 5 diwrnod arbenigol sy'n galluogi pobl i ddatblygu sgiliau mewn 6 sector penodol. Bydd y cyrsiau hyn yn cynnig llwybr dilyniant i bobl i mewn i gyflogaeth pellach yn y sector goedwigaeth. Bydd Tir Coed yn cynnig y cyrsiau mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n brofiadol iawn ym mhob un o'r sectorau. Mae'r cyrsiau'n agored i unigolion sydd wedi teithio drwy cyrsiau hyfforddi Tir Coed neu sydd â phrofiad blaenorol o fewn y sector.

Y 6 sector yw:

Ecoleg

Mae Tir Coed yn cynnig cyfle arloseol i bobl sydd â diddordeb mawr mewn monitro bywyd gwyllt; cyfle i ddarganfod mwy ac enill profiad ymarferol o amrywiaeth o dechnegau arolygu, adnabod a chofnodi. O dan arweiniad ecolegydd arbenigol bydd pobl yn cael blas ar y sector amgylcheddol eang drwy cymysgedd o theori, gwaith ymarferol a gweithgareddau ar y maes; profiad ecolegol trochi.

Coedwigaeth Mecanyddol

Mae Tir Coed yn cynnig cyfle i unigolion sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector goedwigaeth i ennill profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau gweithiwr coedwigaeth. Bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn cael cyflwyniad cynhwysfawr o'r safon a ddisgwylir yn nhermau rheoliadau Iechyd a Diogelwch, Disgyblaeth a Chyfrifoldeau, Periannau a Chynhliaeth ac ymarfer da.

Fframwaith Coed

Mewn partneriaeth â Tŷ Pren, bydd Tir Coed yn cynnig antur cyffroes i grefftwyr ac adeiladwyr traddodiadol ymflagurol i ddablygu a hogi eu technegau a sgiliau fframwaith coed.Wedi'i anelu at unigolion sydd ag ychydig o brofiad blaenorol, bydd disgwyl i gyfranogwyr fod yn rhan o dîm gwaith i gwblhau pecyn o adeiladwaith benodol. Bydd cyfle i'r unigolion adeiladu fframwaith coed traddodiadol o un ai coed pren neu coed wedi'i dorri'n sgwâr. Mae cyfle hefyd i'r fframwaith coed sgwâr gael eu creu i'w gwerthu, yn barod am cladin tra bydd yr adeiladwaith coed crwn yn opsiwn mwy parhaol ac esthetig.

Coedwigaeth Cymdeithasol

Cyniga Tir Coed cyfle i bobl ddefnyddio amrywiaeth eang o weithgareddau ymarferol i greu sail i'w dealltwriaeth o'r egwyddorion damcaniaethol; gan ddatblygu dull cinasthetig ac ymarferol i hyfforddiant i adlewyrchu'r dull bywiog o ddysgu a'r sail ymarferol o waith Tir Coed. Bydd y rheiny sy'n cymryd rhan yn cael gwahoddiad i gyfrannu at hyfforddiant arbrofol drwy rannu eu gwybodaeth, meddyliau, teimladau, dealltwriaeth ac ymarfer unigol, er mwyn enill dealltwriaeth dwfn o dull rhwyddhad unigolyn.

Crefftau Traddodiadol

Cyniga Tir Coed cyfle i bobl ddatblygu eu sgiliau ac yn rhoi platfform iddynt allu dechrau gyrfa ym maes crefft treftadaeth. Bydd gan y rheiny sy'n cymryd rhan fynediad i amgueddfeydd lleol sydd â chasgliadau Treftadaeth, gyda choedwigoedd yn y canol, fel ffynhonnell ysbrydoliaeth a sail ar gyfer ymchwil, cynlluniau, datblygu a chynllunio. Bydd disgwyl i unigolion i ddatblygu ymateb creadigol eu hunain i ddod o hyd i ddeunyddiau, ymchwilio ymhellach i gynhyrchu syniadau, dyluniau, a chynllun gweithredu manwl, yn barod ar gyfer y sesiynau ymarferol dwys.

Tanwydd Coed

Cyniga Tir Coed gyflwyniad i gymhlethdodau cynhyrchu tanwydd coed, i unigolion sydd â diddordeb mewn deall mwy am y broses. Gan ffocysu ar goed tan yn hytach na chynhyrchu sglodion pren, bydd y sesiynau ymarferol yn rhoi profiad dwys on hollgynhwysfawr ac yn helpu i hybu gwybodaeth a hyder. Bydd cynhwysiad o ddulliau traddodiadol a mecanyddol o gwympo, echdynnu a phrosesu fydd yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr brofi, arsylwi, dangos a chyfnerthu sgiliau newydd.

Rwy’n teimlo wedi adfywio ar ôl cwrs wythnos ddwys ac yn teimlo bod fi wedi ennill rhywbeth o hyn.

Eisiau ymuno mewn cwrs

Diddordeb?

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed