Dathliadau 25 Mlynedd Tir Coed!
Written by Tir Coed / Dydd Sul 10 Tachwedd 2024
Rydym wrth ein bodd yn rhannu bod Tir Coed wedi dechrau dathlu ein pen-blwydd yn 25 oed yn swyddogol! Cynhaliwyd ein digwyddiad cyntaf yng Nghoed Tyllwyd Ceredigion, lle daethom at ein gilydd i anrhydeddu'r garreg filltir hon gyda gweithwyr dan hyfforddiant a thiwtoriaid, rhai o’r gorffennol a'r presennol, yn ogystal ag aelodau staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), tirfeddianwyr y safle coetir poblogaidd hwn a'r gymuned leol.

Dechreuodd y digwyddiad gyda thaith o amgylch y coetir, gan arddangos y gwaith anhygoel y mae gweithwyr dan hyfforddiant Tir Coed wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd trwy amrywiol brosiectau. Roedd yn gyfle i ailedrych ar etifeddiaeth y prosiectau hyn o’r gorffennol a dathlu'r effaith drawsnewidiol y maent wedi'i chael ar y coetir a'r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw.

Yn dilyn y daith, fe aeth y cyd-Brif Weithredwyr, Cath Seymour a Helen Gethin i’r llwyfan. Yn eu hareithiau twymgalon, fe wnaethant ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o stori Tir Coed, o'n gweithwyr dan hyfforddiant a'n tiwtoriaid gweithgar i'n partneriaid cefnogol. Fe wnaethant rannu straeon ysbrydoledig am lwyddiannau'r gorffennol a phwysleisio pwysigrwydd sicrhau cyllid yn y dyfodol i barhau â'n gwaith hanfodol yng Ngheredigion a thu hwnt.
"Coed Tyllwyd yw ein safle mwyaf sefydledig, ac mae ein perthynas â CNC wedi bod yn hynod werth chweil. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus, sydd wedi ein galluogi i reoli'r coetir ar gyfer y gymuned, gan wella mynediad a chysylltiad â natur. Mae'r gefnogaeth barhaus gan gynifer o weithwyr dan hyfforddiant y gorffennol, sy'n dal i ddilyn ein taith, yn dweud cyfrolau am yr effaith barhaol y mae Tir Coed wedi'i chael ar eu bywydau. Rydym wedi cael y fraint o weld llwythi o unigolion yn symud ymlaen i hyfforddiant pellach, cyflogaeth a datblygiad personol - canlyniadau na fyddai'n bosibl heb ymroddiad ein tîm anhygoel ac ymrwymiad ein hyfforddeion."
Cath Seymour, Pennaeth Gweithrediadau a Chyd-Brif Weithredwr
"Wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o Tir Coed, rydym am ddiolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o'n taith. Dim ond diolch i ymroddiad, awch ac angerdd ein staff, gweithwyr dan hyfforddiant, tiwtoriaid, ymddiriedolwyr a phartneriaid y mae ein cyflawniadau wedi bod yn bosibl. Wrth edrych i'r dyfodol, rydym yn gyffrous am y posibiliadau sydd o'n blaenau ac rydym wedi ymrwymo i barhau â'r etifeddiaeth hon. Gyda'r gefnogaeth a'r cyllid cywir, gallwn sicrhau bod ein gwaith da yn parhau, gan helpu mwy o gymunedau i gysylltu â'r awyr agored a datblygu sgiliau gwerthfawr am flynyddoedd i ddod."
Helen Gethin, Pennaeth Cyllid a Chyd-Brif Weithredwr

Un o uchafbwyntiau'r diwrnod oedd dwy gacen hardd wedi'u pobi gan y cyn-hyfforddai, Hina, a fwynhawyd gan bawb. Roedd y cacennau nid yn unig yn wledd hyfryd, ond yn dyst i'r sgiliau a'r hyder a gafodd Hina yn ystod ei chyfnod gyda Tir Coed. Dros damaid blasus o gacen a phaned o de, rhannodd nifer o fynychwyr eu straeon o’u hamser gyda Tir Coed, gan hel atgofion am eu profiadau a'r effaith y mae'r elusen wedi'i chael ar eu bywydau. Dangosodd y sgyrsiau twymgalon hyn yr ymdeimlad cryf o gymuned a'r cysylltiad y mae gweithwyr dan hyfforddiant Tir Coed yn ei deimlo am eu hamser gyda ni. Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, mae'r straeon hyn yn parhau i'n hysbrydoli a'n hysgogi i ymdrechu am gyflawniadau a llwyddiannau fydd hyd yn oed yn fwy, gan sicrhau y bydd ein hymdrechion o fudd i lawer mwy o bobl a chymunedau yn y blynyddoedd i ddod.

We have two more special events lined up to mark this milestone: in Pembrokeshire on the 19th November and Carmarthenshire on 20th November.


The events will include an opportunity to take part in an outdoor activity, hands-on demonstrations of sustainable woodland skills and crafts and the chance to meet some of the team behind Tir Coed’s inspiring work. It will also be a wonderful opportunity for partners, supporters and the wider community to come together to celebrate a shared passion for the potential of the outdoors to create change and to look ahead to the next chapter of Tir Coed’s journey.


We hope you can join us in commemorating this significant achievement and look forward to celebrating the incredible impact we've made over the past 25 years.