Taith i Sir Benfro
Written by Tir Coed / Dydd Iau 19 Ebrill 2018
Mae diwrnod allan o’r swyddfa i fod yn y goedwig yn rhywbeth rwy’n edrych ymlaen ato, felly dechreuais y diwrnod gyda thaith i Aberaeron i gwrdd â’n rheolwr ar gyfer coffi cynnar cyn y daith hir i lawr i safle Tir Coed yn Sir Benfro.
Wrth gyrraedd ar y safle, roedd yr haul yn gwenu drwy’r dail yn hyfryd a’r croeso o’r tiwtoriaid yn gyfeillgar fel arfer. Cerddom i’r ardal ble’r oedd y cyfranogwyr yn gweithio ar adeiladu cysgodfa o goed a darnau bychan o goed. Mae’r ardal hyn wedi’i glirio o lwyni isel a mieri a gyda chymaint o bobl yn gweithio, roedd hi’n fwdlyd iawn dan draed ac yn gorchuddio gwaelod fy mŵts mewn rhai mannau! Rwy’n dweud hyn gyda phwyslais oherwydd mae rhywun yn anghofio amgylchedd yr awyr agored wrth weithio mewn swyddfa bob dydd.
Tra bod Angie’n tynnu lluniau o’r cyfranogwyr ar yr adeiladwaith, mi es i i siarad ag un o’r tiwtoriaid a oedd yn dangos cyfranogwr sut i ddefnyddio cyllell ddeugarn a oedd angen cryfder a symudiadau manwl cywir er mwyn sicrhau nad oedd y gyllell yn mynd yn rhy ddwfn. Wrth i ni fynd o gwmpas yn edrych beth oedd pob grŵp yn ei wneud roedd yn ddiddorol i gymryd nodyn o’r personoliaethau gwahanol oedd yn y grŵp o bobl oedd yn dod at ei gilydd i weithio ar osodiad at ddefnydd y cyhoedd; rhai’n swil, rhai’n hyderus, ac wrth i amser fynd yn ei flaen roedd y cyfranogwyr yn ymlacio ac yn fwy hyderus gyda’i gwaith ac wrth ateb cwestiynau.
Ychydig dros ddwy awr roeddwn yno a phan oedd hi’n amser gadael roeddwn mewn sioc i weld fy mod wedi ymlacio ac wedi fy adfywio; mae’n efrydiau’n dangos bod 'na fudd iechyd cadarnhaol mewn treulio amser yn y goedwig.
Felly nawr, rwy’n edrych ymlaen at y tro nesaf y byddaf yn ymweld â’r goedwig.