Mae cwrs arall wedi hedfan heibio yn Sir Benfro!
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 13 Awst 2019
Adeiladwyd 4 pont, dysgwyd sgiliau newydd a gwaned llawer o gysylltiadau newydd - mae’r cwrs wedi bod yn lwyddiant! Dechreuodd 11 o bobl y cwrs, gyda 7 ohonynt yn derbyn achrediad yn Strwythurau Ategol - dros 1,000 o oriau yn y coetir!
Yn ystod y cwrs, fe wnaeth yr hyfforddai weithio gyda'i gilydd i adeiladu pontydd prydferth a chlirio llwybrau. Gyda'r holl ddefnydd wedi'i casglu o goetir lleol, yr oedd y pontydd yn edrych yn berffaith yn ei lleoliad. Yn ogystal a datblygu sgiliau, gwella ei lles a chwrdd â phobl newydd maen nhw hefyd wedi gwella mynediad y coetir i grwpiau arall fwynhau.
Ar y diwrnod olaf, wnaeth y tîm goginio bwyd blasus iawn ar y tan i'w rannu. Yn ystod hyn wnaethon nhw edrych nôl dros y 12 wythnos diwethaf tra’n hefyd edrych ymlaen at y dyfodol a beth fydd nesaf i bob un. Rhoddwyd tystysgrifau i bawb ac yna fe aethon am dro ar hyd y llwybr cylch heddychlon sydd wedi ei datblygu yn ystod y cwrs.
Mae’r cwrs wedi rhoi pwrpas i fi eto a 'dyw’r wobr byth yn gorffen. Diolch i bawb a wnaed hyn digwydd.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am ein cyrsiau yn Sir Benfro, gallech gysylltu â’r mentor Sir Benfro, Nancy: [email protected]