Digwyddiad Coedyddiaeth, Garddwriaeth a Phrentisiaethau Coedwigaeth Trailblazer ar gyfer darparwyr Hyfforddiant

Written by Tir Coed / Dydd Iau 24 Mai 2018

Cafodd taith epig o 5 awr a hanner trwy’r gwres llethol, drysfa o draffyrdd a hewlydd bach cefn ei wobrwyo gyda lleoliad trawiadol ar gyfer y cyfarfodydd Prentisiaethau.

Mae Coleg Shuttleworth, sy’n rhan o Goleg Bedford, yn sefydliad Addysg Bellach wedi’i osod mewn parc prydferth prydferth gyda maes awyr ei hun! Yn bennaf, mae’n cynnig cyrsiau amaethyddol, coedwigaeth, amgylcheddol, sefydliadau tir, a gwyddoniaeth anifeiliaid, mae ganddo ganolfan gofal anifeiliaid sy’n cefnogi anifeiliaid domestig, a rhywogaethau arbenigol o’r sw o bob man yn y byd yn ogystal â mynediad i bron pob math o gynefin. Wedi’i leoli mewn ardal gadwraeth unigryw, mae gan y stad fferm weithiol, man saethu, pysgodfa gyda nifer o lynnoedd llawn, safle o ddiddordeb arbennig, coedwig hynafol, safle bywyd gwyllt y wlad, a pharcdir ffurfiol gyda choed sampl sirol. Lle eithaf anhygoel ar y cyfan.

Roedd 80 cynrychiolwr, gan gynnwys cyflogwyr, colegau, sefydliadau coetir a choedwigaeth, cymdeithasau masnach broffesiynol a chynrychiolwyr o gyrff dyfarnu achrediad, fynychu’r digwyddiad Trailblazer hwn, a wnaeth darparu’r wybodaeth ddiweddar ar Brentisiaethau Coedyddiaeth, Coedwigaeth a Garddwriaeth.  

Fe wnaeth nifer o siaradwyr rannu eu profiadau, arferion gorau a’u pryderon ynghylch y safonau prentisiaethau newydd.

Fe wnaeth nifer o grwpiau llai trafod materion penodol (cadarnhaol a negyddol) sy’n perthyn i bob prentisiaeth ac amlygwyd rhannu ar gyfer ymyrraeth wedi’i dargedu. Yn y sesiwn Goedwigaeth, roedd nifer o brofiadau gwahanol gyda’r ddarpariaeth o docynnau safonol y diwydiant; roedd rhai colegau yn gweld bod recriwtio prentisiaid i’r safonau Gweithredwyr Coedwig yn cael ei gysgodi gan yr atyniad i ennill rhagor o docynnau safonau Coedwigaeth. Er hynny, roedd cyflogwyr yn bryderus y gall prentisiaid gyda gormod o docynnau fod yn fwy cymwysedig na’r arweinwyr yr oeddent yn gweithio iddynt, felly’n hapusach i gynnig lleoliadau i Weithredwyr Coedwig na Choedwigaeth!


Nodwedd hanfodol arall cafodd ei drafod oedd pwysigrwydd ‘gwerthoedd ac ymddygiadau’. Mae pob diwydiant yn gweld hyn fel rhywbeth hanfodol, a rhai yn fwy nag ennill sgiliau galwedigaethol. Dyma yw’r union beth y mae Tir Coed wedi bod yn ei hyrwyddo yn ystod yr Wythnosau o Hyfforddiant Dwys, felly mae’n wych i wybod bod Tir Coed unwaith eto yn chwarae eu rhan yn y llun cyflawn ac yn flaenllaw yn natblygiadau arwyddocaol y sector.

Codwyd recriwtio a marchnata ar draws pob grŵp fel elfen bwysig o symud ymlaen sydd angen sylw. Y teimlad oedd y dylai’r not fod i werthu’r ‘Gyrfa’ yn hytrach na’r ‘Prentisiaeth’.

Digwyddiad cadarnhaol iawn a chynhyrchiol; a’r canlyniad diweddaraf o ganlyniad yw bod Tir Coed wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r grŵp ffocws Coedwigaeth Cymru i ddechrau trafodaethau gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru  i drafod sut i ddatblygu prentisiaethau mewn modd tebyg yng Nghymru. Gwyliwch y gofod

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed