Cylchlythyr yr Hydref 2022
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 21 Medi 2022
Dyfodiad yr Hydref yn datgan nifer o newidiadau sylweddol yn Tir Coed.
Bydd ein prosiect LEAF pum-mlynedd yn dod i’w derfyn ym mis Hydref. Mae’r prosiect wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol, gan alluogi cannoedd o hyfforddeion i ennill achrediadau a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol sydd wedi eu rhoi nhw ar lwybr i geisio gyrfaoedd mewn diwydiannau coetir yn ogystal â rhoi’r cyfle i filoedd o gyfranogwyr i ddarganfod y buddion a’r llawenydd o dreulio amser yng nghoetiroedd hardd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Bydd manylion pellach am LEAF yn cael eu cynnwys yn adroddiad diwedd prosiect ac adroddiad effaith blynyddol Tir Coed yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dros fisoedd yr Haf, amlygodd ein tîm rheoli llwyddiannau’r prosiect trwy gyflwyniadau i Cynnal y Cardi Ceredigion ac Arwain Powys, dau rwydwaith sydd wedi darparu cyllid yn ystod y prosiect i sicrhau yr oeddem yn gallu cyflawni ein nodau.
Roeddem yn hynod falch i ddod â theulu cyfan Tir Coed at ei gilydd i ddathlu holl waith caled a llwyddiannau niferus y prosiect mewn diwrnod tîm yng nghyfleuster Coedwig Gymunedol Long Wood, Ceredigion yn ddiweddar.
Rhodd y cyfarfod y cyfle i ni ddweud diolch enfawr i Ffion Farnell, ein Prif Swyddog Gweithredol hirsefydlog, sy’n gadael Tir Coed ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw. O dan arweinyddiaeth a chyngor angerddol Ffion, mae Tir Coed wedi mynd o nerth i nerth, gan ehangu i weithio ar draws y pedair sir a thyfu ein tîm o staff i 30. Mae hi wedi chwarae rhan enfawr mewn trawsnewid bywydau miloedd o hyfforddeion, cyfranogwyr a gwirfoddolwyr ac ni ellir goramcangyfrif ei dylanwad ar y sefydliad.
Roedd hefyd yn gyfle i ddweud diolch enfawr i Helen a Teresa, a lywiodd cwch Tir Coed mewn modd mor fedrus dros y 12 mis diwethaf.
Roedd y gwaith paratoi ar gyfer ymadawiad Ffion wedi gweld Tir Coed yn ceisio ail-ddychmygu’r ffordd yr oedd y sefydliad yn cael ei redeg a - gan ystyried y trafodaethau hyn - rydym wedi cymryd y cam sylfaenol i ailfeddwl ein strategaeth reoli yn gyfan gwbl. Rydym nawr wedi mabwysiadu dull newydd arloesol o ffurfio ein harweinyddiaeth, gan rannu’r swydd Prif Swyddog Gweithredol yn dair rôl wahanol.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Helen nawr yn dod yn Gyfarwyddwr Cyllid ac mae Cath wedi’i henwi fel ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd. Rydym nawr yn chwilio am ein Cyfarwyddwr Datblygiad a Chyfathrebu newydd i gwblhau’r tîm arweinyddiaeth. I gael gwybodaeth bellach am y swydd a manylion am sut i wneud cais, cliciwch yma.
Hefyd yn ystod yr Haf eleni, rydym wedi gweld ein rhwydwaith o bartneriaethau yn parhau i ledaenu wrth i dîm Sir Gaerfyrddin gynnal cyrsiau a sesiynau yng Nghoedwig Brechfa a thîm Ceredigion yn cynnal prosiect Yr Ardd yn Llandysul.
Yn Sir Benfro, bu’r hyfforddeion ar gwrs gwaith coed 12 wythnos yr Haf yn gweithio ochr yn ochr â staff gweithgareddau Tir Coed i greu cysgodfan at bob tywydd newydd gwych ar safle Coedwig Scolton. Fe wnaeth ein gwaith gydag ysgolion o fewn y sir ddarparu profiadau a wnaeth newid bywydau disgyblion Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro ac Ysgol Gymunedol Neyland.
Yn y cyfamser ym Mhowys, rydym wedi gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Cwm Elan i ddatblygu chwe lleoliad gwaith rhan-amser 20-wythnos am dâl ar gyfer seiri coetir ifanc.
Gyda’r prosiect LEAF nawr yn dod i’w derfyn, rydym yn gyffrous i fod yn dechrau ar gam nesaf datblygiad Tir Coed gyda’r Prosiect AnTir. Mae’r prosiect, sydd wedi bod yn rhedeg fel rhaglen dreial yng Ngheredigion dros y 12 mis diwethaf, yn gweld Tir Coed yn ehangu ein gorwelion i gynnwys amrywiaeth ehangach o hyfforddiant a gweithgareddau awyr agored tra’n cynnal ein hangerdd craidd at ein coetiroedd.
Mae cyrsiau AnTir yn cynnwys cynnig ystod o gyrsiau tyfu i hyfforddeion er mwyn eu helpu i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu eu bwyd eu hunain gan wella’r cynefinoedd naturiol yn eu gerddi a’u mannau gwyrddion eu hunain hefyd.
Mae’r cyrsiau tyfu hyn wedi dod â llwyddiant ysgubol a hyd yn oed mwy o alw yng Ngheredigion diolch i lawer o gyrsiau peilot, cyrsiau byrrach a’r rôl flaenllaw yr ydym wedi’i chwarae yng ngŵyl Ewch i Dyfu Aberystwyth. Mae’r cyrsiau sgiliau tyfu yr ydym yn eu cynnal ar hyn o bryd yn Sir Benfro wedi cael croeso tebyg.
Bydd y prosiect, yn dilyn ymgynghoriadau â dros 100 o berchnogwyr tir, ffermwyr, rheolwyr tir a grwpiau cymunedol, hefyd yn gweld Tir Coed yn archwilio’r cyfleoedd hyfforddi y gallwn eu cynnig er mwyn mynd i’r afael â cholli llawer o sgiliau gwledig traddodiadol sy’n debygol o gael effaith ar ein cymunedau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
Roedd misoedd yr Haf - a dychweliad araf normalrwydd yn dilyn Covid-19 - yn golygu ein bod wedi gallu dechrau lledaenu neges Tir Coed i gynulleidfa ehangach unwaith eto ac roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 a Sioe Sir Benfro yn Hwlffordd.
Rydym hefyd wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn cwblhau diweddariad cynhwysfawr o’n gwefan - rydym yn gobeithio y byddwch nawr yn gweld y wefan yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr ac yn haws i bori trwyddi.