Beth yn ymuno â'r tîm

Written by Tir Coed / Dydd Llun 22 Mawrth 2021

Helo. Beth ydw i, y Cydlynydd Prosiect newydd ar gyfer sir Benfro, sy’n gweithio gyda’r Arweinwyr a’r Mentor Gweithgareddau i ddarparu hyfforddiant a phrofiad yn ogystal â chyfleoedd i’r dyfodol mewn coetiroedd. Byddaf yn gweithio’n rhan amser o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng y swyddfa yn Arberth, y cartref a’r coed.


Dywedwch rywbeth bach am eich hun…

Rwy’n fam i dri pherson ac un gath ac wedi bod yn gweithio fel cynllunydd llawrydd ers rhai blynyddoedd. Cyn hynny, bûm yn gweithio am flynyddoedd lawer ym maes rheoli parciau, gan weithio ar amrywiol safleoedd yng nghanolbarth Lloegr a Swydd Efrog o warchodfeydd natur cenedlaethol i barciau mwynder mawr, gardd fasnachol a phopeth arall yn y canol. Rwy wrth fy modd allan yn yr awyr iach, ac yn angerddol ynglŷn â chysylltu pobl â byd natur, oherwydd yn aml iawn, dydyn ni ddim yn sylweddoli beth sydd ar goll nes i ni ei ganfod unwaith eto!  

Beth yw eich diddordebau?

Nofio dŵr oer ar draethau sir Benfro, bwyta chwyn a bwydydd gwyllt… tyfu bwyd, a wel, ei fwyta… unrhyw beth sy’n ymwneud â chelfyddyd, gwylio a darllen unrhyw beth ffug wyddonol, darllen nofelau hanesyddol a gwrando ar bodlediadau hanes a gwyddoniaeth. Ond yn bennaf, dyma beth fyddai fy niddordebau pe bai amser gen i.

Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?

Rwy’n edrych ymlaen at gael mynd yn ôl i’r coed, gyda’r gobaith o rannu a dysgu sgiliau newydd. Rwy hefyd yn frwd iawn ynglŷn â gyrfaoedd sydd ynghlwm wrth y tir a dangos i bobl eu bod yn ddewisiadau cadarn o safbwynt gyrfa, ac yn hynod werth chweil.

Gyda’r cyfnodau clo diweddar yn ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd ein cysylltiad â byd natur a chyda’r holl bwyslais ar gynaliadwyedd a’n dyfodol amgylcheddol, mae nawr yn well amser nac erioed i fod yn rhan o’r sector, ac rwy wir yn gobeithio y gallaf helpu pobl i ganfod eu traed yn y maes yma. Megis dechrau edrych ar y ffyrdd y gallwn weithio mewn modd cynaliadwy gyda choetiroedd i greu adnoddau cymunedol, cyfleoedd cyflogaeth a dyfodol mwy cynaliadwy ydym ni.

Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?

Rwy wedi gweithio allan yn yr awyr agored mewn rhyw ffordd drwy gydol fy mywyd fel oedolyn, ac rwy wrth fy modd yn cael bod mor agos at y tymhorau. Does dim yn well gen i na chael micro dymhorau mewn un diwrnod, ac a dweud y gwir, yng Nghymru, mae’n bosib cael y pedwar tymor mewn un awr… ac allwch chi ond gweld hynny mewn gwirionedd o fod y tu allan am gyfnod hir. Dydy pethau fyth yr un peth drwy’r amser pan fyddwch chi y tu allan… a does dim syniad gyda chi beth fyddwch chi’n ei weld neu’n ei brofi a fydd yn aros gyda chi gydol eich oes! Y pethau rwy wedi’u gweld dros y blynyddoedd! Harddwch anhygoel, byd natur yn bod yn hollol ryfedd ac anifeiliaid yn gwneud y pethau mwyaf annisgwyl… hanesion ar gyfer rhyw dro arall!

Rwy’n caru’r DU yn fwy na dim oherwydd amrywiaeth a harddwch y dirwedd, ond yn enwedig sir Benfro. Rydyn ni wir yn cystadlu ar y llwyfan byd-eang o safbwynt tirwedd eiconig a hardd, ac mae’n anrhydedd i fyw a gweithio yma!

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Pobl sy’n trio pethau newydd er gwaethaf eu hofnau… a ’mhlant, bob dydd.

Beth yw eich hoff dymor a pham?

Cwestiwn anodd am ’mod i’n caru’r flwyddyn gyfan. Rwy’n caru bwydydd gwyllt, ac felly’n cael fy nghyffroi yn ystod y gwanwyn o weld garlleg gwyllt yn dod i’r golwg… ond rwy’n caru diwedd yr haf/dechrau’r hydref, oherwydd yr holl aeron a chnau ac afalau. Alla i ddim meddwl am unrhyw beth gwell na chario llond côl o afalau wedi cwympo adref gyda fi – o bosib fy hoff beth – felly’r hydref, efallai. Rwy hefyd wrth fy modd â Chalan Gaeaf a phwmpenni, felly ie, yr hydref amdani.

Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?

Mae hwn wir yn gwestiwn anodd. Hoffwn ddweud ‘derwen’, sy’n gryf ac yn ddibynadwy, neu ‘ffawydden’… sy’n dal ac urddasol… ond efallai ’mod i’n fwy o ddraenen wen, ychydig yn arw gartref ar y cyfan ond yn drawiadol o gael lle a chyfle i redeg yn wyllt.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed