Encil o Firmingham yng Nghwm Elan
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 30 Mai 2018
Yn ystod wythnos hanner tymor, teithiodd Canolfan y Factory Young People o Firmingham am noson o encil yng Ngwm Elan yn rhan o brosiect Elan Links: Pobl, Natur a Dŵr.
Cyrhaeddodd y grŵp o bobl ifanc fore Mawrth, a dechreuwyd y diwrnod gyda phawb yn rhoi cynnig ar ddechrau tân a cherfio ffyn cerdded cyn dysgu am y technegau traddodiadol o hela a maglu. Yn dilyn y gweithgareddau hyn, aeth y grŵp am dro i argae Caban Coch ac fe wnaethant ddysgu am chwilota ar hyd y ffordd.
Ar ôl seibiant dros nos ym Mhorthdy Cwm Elan, dechreuwyd y diwrnod ar y dŵr mewn canŵ. Er y dŵr oer, roedd pawb yn hapus ac yn mwynhau’r profiad o fod ar ganŵ ar ddŵr yr argae - fe wnaethon nhw hyd yn oed gweld yr argae wedi’i hanner adeiladu yn Nol-y-mynach.
Dychwelodd y grŵp i Bentref Cwm Elan i fwynhau tamaid o ginio a newid dillad cyn mynd i ben pellaf y pentref i fwynhau gweithgareddau saethyddiaeth. I helpu gyda’r anelu, rhoddwyd sialens i’r grŵp gan y tiwtor i geisio popio’r balŵn ar y targed. Fe wnaeth y grŵp mwynhau hwn ac fe amlygwyd yr ochr gystadleuol. Mwynhaodd pob aelod o’r grŵp eu hamser yng Nghwm Elan yn fawr iawn.