Adeiladu pontydd yn y byd newydd rhyfedd hwn
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021
Mae'n anodd credu pa mor gyflym y mae 6 wythnos wedi mynd heibio: mae'r byd y tu allan i'r Elan wedi newid cymaint, ond ar yr un pryd, mae'r Elan wedi bod mor stoic ag erioed.
Mae ein hyfforddeion wedi newid cymaint hefyd. Nid dieithriaid yw'r 7 unigolyn a gyfarfu am y tro cyntaf 5 wythnos yn ôl mwyach, a gwelir cyfeillgarwch agos nawr ar ôl iddynt fagu hyder a meithrin sgiliau offer.
Ar ddechrau'r cwrs, roeddwn yn gofidio sut fyddai cwrs diogel o ran Covid yn teimlo, fodd bynnag, mae ein hyfforddeion wedi bod yn wych. Maent yn fwy na bodlon cadw pellter parchus o'i gilydd, gan ddefnyddio'r hylif diheintio dwylo a chymryd eu tymheredd yn ddidrafferth, ond ar yr un pryd, nid yw mesurau diogelwch Covid wedi eu hatal rhag cynorthwyo a helpu ei gilydd.
Bu wythnosau cyntaf y cwrs yn ymwneud â meithrin sgiliau offer, o greu ysbodolau ar ddiwrnod 1 i greu mainc hyfryd er mwyn darparu seddau ychwanegol a rhai meinciau gwaith i'w defnyddio ar gyfer prif dasg y cwrs, sef adeiladu pont.
Fodd bynnag, nid gwaith pren fu'r holl waith. Mae Cwm Elan yn gartref i 39 o Henebion Cofrestredig, yn ogystal â rhai o'r coetiroedd Derw Iwerydd pwysicaf yn Ewrop, felly trefnwyd taith o gwmpas yr Ystad er mwyn gweld rhai o'r safleoedd hyn, ynghyd â'r safleoedd coedwigaeth masnachol, er mwyn cynnig blas i'n hyfforddeion o leoliad y cwrs ac i gynnig cyfle iddynt ddysgu am ecoleg yr ardal.
Bellach, mae'r gwaith wedi cychwyn ar y bont. Mae ein prif drawstiau strwythurol wedi cael eu torri ac mae'r uniadau'n barod i gael eu creu. Nid yn unig y bydd y bont hon yn croesi nant, ond bydd yn rhychwantu'r newid yn y byd y tu allan wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi.