Dathlu 25 Mlynedd o Gysylltu Pobl â'r Awyr Agored

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 17 Medi 2024

Mae Tir Coed yn Dathlu 25 Mlynedd gyda Digwyddiadau Ar Draws Pedair Sir

Rydym wrth ein bodd yn dathlu 25 mlynedd o gysylltu pobl â’r awyr agored ar gyfer dysgu a llesiant, grymuso cymunedau a thrawsnewid mannau gwyrdd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru wledig.

Ers 1999, mae Tir Coed wedi bod yn gweithio i ddatgloi potensial tir a choetiroedd i ddarparu cyfleuster cymunedol, gweithgareddau addysgol ac iechyd, ac i greu cyfleoedd gwaith i unigolion difreintiedig yng nghefn gwlad Cymru. Gyda'r nod o wneud newid parhaol cadarnhaol.

I nodi’r garreg filltir hon, rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau arbennig ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys – y pedair sir rydym yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd, gan ddod â’r cymunedau sydd wedi bod wrth galon ein gwaith at ei gilydd. Bydd y digwyddiadau hyn yn arddangos llwyddiannau anhygoel yr elusen dros y ddau ddegawd a hanner diwethaf.

Ymunwch â ni am Ddiwrnod Agored yng Nghoed Tyllwyd, Ceredigion

I gychwyn ein dathliadau, rydym yn cynnal diwrnod agored yng Nghoed Tyllwyd yng Ngheredigion, y sir lle rydym wedi bod yn gweithio hiraf a’n safle mwyaf sefydledig, ddydd Iau, 26ain Medi o 1yp tan 3yp. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddysgu mwy am waith Tir Coed, archwilio’r coetir a chlywed straeon am yr effaith anhygoel y mae Tir Coed wedi’i chael ar fywydau pobl a’r lleoedd sydd wedi’u trawsnewid yn gadarnhaol gan ein prosiectau niferus dros y blynyddoedd.


Bydd y digwyddiad yn cynnwys teithiau cerdded tywysedig yn y coetir, arddangosiadau ymarferol o sgiliau a chrefftau coetir cynaliadwy a’r cyfle i gwrdd â rhai o’r tîm y tu ôl i waith ysbrydoledig Tir Coed. Bydd hefyd yn gyfle gwych i bartneriaid, cefnogwyr a’r gymuned ehangach ddod at ei gilydd i ddathlu’r angerdd a rennir am botensial yr awyr agored i greu newid ac i edrych ymlaen at bennod nesaf taith Tir Coed.

Etifeddiaeth o Newid Cadarnhaol

Ers ei sefydlu yn 1999, mae Tir Coed wedi cynnwys miloedd o unigolion mewn gweithgareddau awyr agored ystyrlon, gan gynnig hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd datblygiad personol tra'n gwella bioamrywiaeth ac adfer gofodau coetir. O goetiroedd gwledig i fannau gwyrdd trefol, rydym wedi ehangu ein cyrhaeddiad yn barhaus, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a chreu cymunedau iachach a hapusach.

Wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o’r gwaith dylanwadol hwn, cawn ein hatgoffa o bwysigrwydd byd natur wrth wella ein lles a chryfhau ein cymunedau.

Ymunwch â'r Dathliad


Mae croeso i bawb fynychu digwyddiadau pen-blwydd Tir Coed. Rydym yn eich annog i ymweld â'n gwefan neu gysylltu â ni'n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yn y dathliad hwn o natur, dysgu a chymuned.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed