Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gydag elusen Tir Coed!
Written by Tir Coed / Dydd Sadwrn 08 Mawrth 2025
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, rydyn ni, Tir Coed, yn falch o dynnu sylw at y merched anhygoel sy'n gwneud i'n helusen ffynnu. O aelodau angerddol ein tîm i'r rhai ysbrydoledig sy’n cymryd rhan yn ein cyrsiau, ‘Menywod yn y Goedwig’, rydyn ni’n dathlu cryfder, gwydnwch ac ymroddiad merched yn y sector gwyrdd.

Mae ein cyrsiau ‘Menywod yn y Goedwig’ wedi'u cynllunio i rymuso mwy o ferched i ddechrau ar yrfaoedd gwyrdd yn yr awyr agored. Mae'r cyrsiau hyn yn cynnig profiad ymarferol, sgiliau gwerthfawr, a chymuned gefnogol. Maen nhw’n annog merched i dorri rhwystrau a chroesawu cyfleoedd mewn coedwigaeth, cadwraeth, gwaith coed gwyrdd ac addysg amgylcheddol. Trwy greu amgylchedd o feithrin, ein nod yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd o arweinwyr sy’n ferched yn y diwydiant gwyrdd.

Rydyn ni, Tir Coed, yn ffodus o gael tîm amrywiol o ferched sy'n dod â'u doniau a'u safbwyntiau unigryw i'n prosiectau. Eu gwaith caled a'u hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol a datblygiad cymunedol sy’n gyrru ein llwyddiant. O'n Cyd-Brif Weithredwr i arweinwyr gweithgareddau, mae cyfraniad pob menyw yn amhrisiadwy, a chyda'n gilydd, rydyn ni’n cael effaith barhaol ar ein cymunedau a'r amgylchedd.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, gadewch i ni ddathlu cyflawniadau merched yn y sector gwyrdd a pharhau i gefnogi a dyrchafu ein gilydd. Gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol mwy cynhwysol a chynaliadwy i bawb.
