Cwrs Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy 12 wythnos, Ceredigion - Hanner Ffordd!
Written by Tir Coed / Dydd Llun 11 Mawrth 2019
Am dîm! Mae yna waith gwych sydd wedi bod yn digwydd yng Nghoed Tyllwyd yn Llanfarian, gan hyfforddeion sydd hanner ffordd trwy'r cwrs rheoli coetiroedd cynaliadwy 12 wythnos yng Ngheredigion. Mae’r grŵp wedi bod yn ffocysu ar glirio llwybrau, halo coed a chreu pentyrrau cynefin gyda brash ar lan serth ym mhen deheuol y goedwig.
O dan y cyfarwyddyd o Rob a Polly, mae’r hyfforddeion wedi dysgu a datblygu technegau saff o gwympo coed a defnyddio offeryn llaw. “Maen nhw’n grŵp brwdfrydig a llawn cymhelliant ac maen nhw wedi gwneud gwaith bendigedig!” Mae’r hyfforddeion wedi dod at ei gilydd yn wych ac maen nhw i gyd yn gefnogol iawn ac yn mwynhau'r tasgau ymarferol a datblygu dealltwriaeth ddyfnach o reoli coetiroedd.
Efo’r tymor o gwympo coed bron wedi mynd heibio, mae’r ffocws o’r cwrs wedi symud ymlaen i ddefnyddio coedgwyrdd i greu eitemau a chreu gosodiadau o fewn y goedwig er budd y cyhoedd!