Croeso i'r Goedwig Ceredigion
Written by Tir Coed / Dydd Iau 21 Mehefin 2018
Mae adain Ceredigion Tir Coed yn dathlu diwedd llwyddiannus y Cwrs Croeso. Roedd y 5 diwrnod blasu wedi’i anelu at bobl ifanc â diddordeb mewn gweithio yn y sector goedwigaeth, neu’r sector goetir. Dysgodd y cyfranogwyr am reoli coetir, enillwyd profiad ymarferol mewn sgiliau cadwraeth gyda ffocws ar iechyd a diogelwch, datblygwyd gwaith tîm a sgiliau crefft goed.
Cafodd y cyfranogwyr brofiad gwych ac roedd pawb yn falch iawn o’u cyflawniadau, yn enwedig y stolion un goes y gwnaethant gan ddefnyddio offer llaw draddodiadol a thurn polyn i droi’r pren. Roeddent yn ymgysylltu gyda’r holl dasgau a chael eu hysbrydoli gan sgiliau a gwybodaeth y tiwtoriaid, roeddent yn ennill hyder a sylweddolwyd bod gweithio yn y goedwig yn gallu bod yn foddhaus ac yn opsiwn gyrfa hyfyw yn y dyfodol.