Dewch allan i fwynhau rhai cyrsiau garddio gwych am ddim

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 23 Mawrth 2022

Gyda’r gwanwyn bron wedi a chyrraedd, mae’n bryd cloddio a dechrau trawsnewid gerddi er mwyn sicrhau haf ffrwythlon.
 
I'r rhai nad oes ganddynt y bysedd gwyrdd neu'r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i wneud eu mannau awyr agored yn fwrlwm, mae digon o help wrth law yn rhad ac am ddim.
 
Bydd Tir Coed, yr elusen dysgu a lles awyr agored o Aberystwyth, yn cynnal dau gwrs garddio deg wythnos yn rhad ac am ddim – un yn canolbwyntio ar wella eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt a’r llall yn canolbwyntio ar arddio organig.


Bydd y cwrs garddio bywyd gwyllt yn cael ei gynnal bob dydd Mercher o Fawrth 16 yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian, tra bod y cwrs garddio organig i’w gynnal bob dydd Llun o Fawrth 28 ar dir y fila Sioraidd syfrdanol yn Llanerchaeron yn nyffryn Aeron.
 
Daw’r cyrsiau fel rhan o AnTir,  prosiect uchelgeisiol chwe blynedd Tir Coed, sy’n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd, cymdeithasol ac economaidd yng nghefn gwlad canolbarth a gorllewin Cymru drwy helpu pobl i ailgysylltu â byd natur.
 
Dywedodd Alice Read, cydlynydd Prosiect Dichonoldeb AnTir Tir Coed: “Mae garddio yn amser hamdden gwych i bawb – beth bynnag fo’u gallu neu brofiad – a dyfodiad y gwanwyn yw’r amser perffaith i gymryd rhan.


“Mae garddio yn ein rhoi mewn cysylltiad â byd natur ac mae’n cynnig manteision enfawr i’n hiechyd corfforol a’n lles meddyliol yn ogystal â helpu’r bywyd gwyllt o’n cwmpas. Gall hyd yn oed gwtogi ar filiau bwyd pan ddaw’r haf a’r hydref o gwmpas a ffrwyth ein llafur yn barod i’w gynaeafu.
 
“Mae ein cyrsiau garddio bywyd gwyllt a garddio organig yn gyfle delfrydol i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau a chael eich dwylo’n fudr o dan oruchwyliaeth ein tiwtoriaid arbenigol.”


I ddarganfod mwy am y rhain neu unrhyw gyrsiau Tir Coed eraill, cysylltwch ag Alice ar [email protected]
 
Cefnogir y cyrsiau hyn gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed