Craig-y-Nos - Criw Craggy yn cwrdd
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 23 Mawrth 2018
Yn ddiweddar, bues i ac Angie i Barc Gwledig Craig-y-nos ym Mannau Brycheiniog i gwrdd â chriw Craggy, grŵp sydd yn y broses o ddechrau gardd gymdeithasol.
Mae Craig-y-nos yn gastell adnabyddus a wnaed yn enwog gan y canwr opera Adelina Patti a brynodd yr adeilad a’r tir yn 1878. Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi’i drawsnewid yn westy ac yn lleoliad ar gyfer priodasau gyda’r tir cyffiniol wedi’i rannu rhwng perchnogion y castell a’r parc gwledig. Mae’r tir yn amrywiol gyda thipyn ohono wedi’i orchuddio â choed ac wedi’i rannu gan ddwy afon gydgyfeiriol (llyfned a Tawe). Lleolir y ganolfan ymwelwyr wrth ochr y castell a drws nesa i hwn mae’r ardal y mae Criw Craggy yn gobeithio trawsffurfio.
Mae criw Craggy yn y broses o ddechrau’r ardd gymunedol ble maent eisiau annog pobl yr ardal i dyfu bwyd ei hunain. Mae’r fenter yn rhan o’u hethos gan eu bod eisiau magu a datblygu dyfodol cynaliadwy i’r parc. Yn barod, maent yn cynnal gweithgareddau fel diwrnodau gweithgaredd i’r teulu, a chelf a chrefft (creu bocsys ystlumod a chartrefi i hwyaid) ond eisiau mynd cam ymhellach. Hoffent hefyd ychwanegu elfen o achrediad i’r prosiect fel bod y rheiny sy’n mynychu, nid yn unig yn dysgu sgiliau tyfu bwyd a garddwriaeth, ond hefyd yn derbyn achrediad. Fel rhan o’r ymweliad, cafodd Angie drafodaethau byr am y ffordd y gallant ddatblygu achrediad posib gyda chymorth Tir Coed.
Roedd gen i ddiddordeb mawr yn eu gwaith, gan fy mod, fel rhan o fy ymchwil yn edrych ar ffyrdd y gall Tir Coed ddechrau prosiect garddwriaeth debyg, yn enwedig gydag elfen o achrediad, felly o’m safbwynt i mae hwn yn astudiaeth achos da i oruchwylio i mi allu gweld prosiect yn datblygu o’r dechrau.
Ar ôl paned, rhoddodd criw Craggy daith i ni o’r Parc Gwledig (gan gynnwys y safle posib ar gyfer yr ardd gymunedol). Roedd yn ddiwrnod pleserus iawn ac roedd hi’n wych gallu treulio amser gyda phobl â chymaint o angerdd tuag at dyfu bwyd.