Diwrnod allan i Erddi Botaneg Cymru
Written by Tir Coed / Dydd Llun 09 Gorffennaf 2018
Dechreuodd fy niwrnod am 3yb pan ddeffrodd y ci hyfryd ond yn un sy’n codi gwrychyn fi i fynd am dro, deffrais i wedyn yr ail dro gan y larwm yn canu yn fy nghlust am 7yb.
Roedd yr haul yn gwenu ac yn barod yn boeth iawn pan ddechreuais y daith dwy awr i lawr i Erddi Botaneg Cymru, ger Caerfyrddin ar gyfer cwrs, Cyflwyniad i Asesu¸ sy’n amlinellu egwyddorion sylfaenol asesu unedau a chymwysterau y mae Tir Coed yn eu cynnig drwy Agored Cymru. Ar y cwrs, edrychom ar gasglu tystiolaeth, sut i gofnodi’r wybodaeth hon a gan ddefnyddio pa ddull; edrychom hefyd ar asesu sgiliau cyfranogwyr a’i dilyniant trwy’r cwrs.
Rôl a chyfrifoldebau Aseswr yw paratoi a chynllunio dulliau dilys a dibynadwy o asesu, gwneud penderfyniadau a rhoi adborth i ddysgwyr yn rheolaidd, ac yna’n sicrhau bod y cwrs yn addas i bwrpas fel bod datblygiad dysgwyr yn cael ei gefnogi a bod y level y maent yn dysgu arni yn cael ei reoli ac yn gynhwysol. Rhaid i aseswyr hefyd fod yn ymwybodol o faterion iechyd a diogelwch, i ddeall sut i ymateb mewn argyfwng a pha weithred i ddilyn mewn achos o ddamwain. Rhaid i bob asesiad gynhyrchu canlyniadau sy’n gyfredol ac yn ddilys er enghraifft rhaid i dystiolaeth asesu gyrraedd y canlyniadau dysgu; rhaid i dystiolaeth ddangos taw gwaith y dysgwyr ydyw a bod y canlyniadau’n cael eu dangos.
Yn dilyn y digwyddiad roedd cyfle i edrych ar y tŷ gwydr gwych ac arddangosfeydd Adar Ysglyfaethus Prydain a thŷ ieir bach yr haf.; mae ymwelwyr hefyd yn gallu cerdded o gwmpas y cynefinoedd gwahanol wedi’i greu gan y gerddi waliog neu’r ardaloedd agored o dirwedd.
Roedd y daith adref yn boeth ac yn hir ond ar y cyfan roedd yn ddiwrnod diddorol iawn ac mi wnes i fwynhau; wrth i mi nesu at ddiwedd y daith dwy awr a chwarter, roedd yn rhyddhad o weld arwyddion Aberystwyth ac i gyrraedd adref o’r diwedd.