Dysgu Am Goed - Aelodau newydd

Written by Tir Coed / Dydd Iau 02 Tachwedd 2017

Mae prosiect newydd yn golygu un peth - staff newydd. Rydym yn croesawu dau aelod newydd i'n plith fydd yn gweithio'n galed i ddatblygu a gweithredu prosiect Dysgu am Goed yng Ngheredigion.

Lowri Hopkins - Swyddog Datblygu Dysgu am Goed

Mae Lowri'n wyneb cyfarwydd yma yn Tir Coed ac y mae wedi gweithio yma ers Mehefin 2016, gan ddechrau ar leoliad Twf Swyddi Cymru. Ers hynny, mae wedi dal nifer o swyddi ac fel rhan o'i swydd flaenorol gyda ni, roedd hi'n gymorth mawr i'r Cyfarwyddwr gyda'r ymgynghoriad eang a ddigwyddodd cyn llwyddiant y cyllid Dysgu am Goed. yn awr, ei thasg yw datblygu ac addasu rhaglen Teaching Trees yr RFS ar gyfer y peilot yng Ngheredigion. 

Mae plant yn gyffredinol yn treulio gormod o amser o flaen sgriniau ac mae angen i ni fynd a nhw allan i'r goedwig i'w addysgu mewn amgylchedd hwyliog, ac yn yr amgylchedd naturiol lle nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn dysgu!


Emma Keegan - Swyddog Addysg Dysgu am Goed 

Wyneb newydd i Tir Coed yw Emma. Mae ganddi FDSC mewn Rheolaeth Cefn Gwlad a Chadwraeth ac wedi gweithio fel Cynorthwyydd mewn ysgol gynradd yn y gorffennol. Prif rôl Emma fydd gweithredu'r prosiect yn Ysgolion Cynradd Ceredigion. Mi fydd yn gweithio'n agos gyda Lowri i ddatblygu'r sesiynau cyn mynd allan i goedwigoedd lleol yr ysgolion i'w addysgu am goed, rheoli coedwigoedd a'r amgylchedd naturiol wrth sicrhau bod y gweithgareddau'n cysylltu â'r Cwricwlwm Cymreig.

Fe wnes ymgeisio am rôl Dysgu am Goed oherwydd rwy'n credu bod addysgu plant am yr amgylchedd naturiol yn allweddol ar gyfer ysbrydoli cadwraethwyr y dyfodol. Mae'r cyfle i fod allan yn yr awyr agored yn bwysig i ddatblygu sgiliau newydd ac i sicrhau cysylltiad â natur, mae'n wych gweld plant yn mwynhau dysgu ac archwilio'r goedwig. Mae fy mhlant i'n mwynhau cerdded yn y goedwig ac rwy'n credu ei fod yn dda i'w iechyd a'i lles.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed