Partneriaeth Elan Links

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 22 Mai 2024

Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Cwm Elan i ddarparu rhaglenni hyfforddi, dysgu a lles awyr agored yn eu coetiroedd.

Roedd Elan Links yn brosiect partneriaeth a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda'r nod o sicrhau traftadaeth a hybu'r cyfleoedd sydd ar gael yng nghwm Elan ar gyfer y dyfodol.

Roedd 2023 yn nodi blwyddyn olaf y prosiect, a welodd Tir Coed yn dod â gwelliannau gwirioneddol i fywydau'r bobl fwyaf anghenus, trwy gefnogi ymgysylltiad ac integreiddio'r rhai sydd bellaf o'r farchnad swyddi yn ôl i addysg a hyfforddiant. Trwy gyflwyno cyrsiau byr sy'n seiliedig ar sgiliau a chyrsiau achrededig hirach, rydym wedi darparu cyfleoedd i gefnogi dysgu mewn coetiroedd wrth wneud gwelliannau i amgylchedd naturiol Cwm Elan a mynediad y gymuned ato.

Drwy gydol y prosiect, fe wnaethom gyflwyno 100 o sesiynau gweithgaredd pwrpasol, gan alluogi pobl i dreulio amser yn yr awyr agored, ymgysylltu â'r ardal a'i threftadaeth naturiol a chael gwerthfawrogiad newydd o'r dirwedd arbennig hon.

Yn ogystal, darparwyd pecynnau encilio i alluogi grwpiau anos eu cyrraedd o ardal Birmingham i gysylltu â Chwm Elan, gan chwalu'r rhwystrau i fynd i'r awyr agored. Yn benodol, gan gefnogi grwpiau o bobl nad ydynt efallai fel arfer yn ymweld â chefn gwlad, ond sydd â chysylltiadau â Chwm Elan trwy gyflenwad eu dŵr, fe wnaethom ddarparu cyfleoedd sy'n newid bywydau ac yn gwella bwywdau pobl i dreulio amser ym myd natur.

Dros y 6 mlynedd diwethaf rydym wedi...

Cyflwyno 11 o gyrsiau hyfforddi 24 diwrnod a gafodd effaith gadarnhaol ar fywydau 86 o bobl

Cyflwyno 100 o sesiynnau gweithgaredd pwrpasol i 1,378 o unigolion anoddach eu cyrraed o'r gymuned leol

Darparu profiad a hyfforddiant i 172 o bobl

Mae'r fideos hyn o'n dau brosiect terfynol - ramp hygyrch sy'n rhoi mynediad i bawb i ddefnyddio safle'r tŷ crwn, a phont i sicrhau y gall pawb elwa o dreulio amser mewn amgylchedd therapiwtig awyr agored.

Da iawn i'r tîm ymroddedig o hyfforddeion am y cyflawniadau anhygoel hwn.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed