Daw Cwrs 12 wythnos Cwm Elan i derfyn
Written by Tir Coed / Dydd Iau 17 Mai 2018
Yn ôl ar ddechrau mis Chwefror, dechreuodd 11 cyfranogwr dewr ar gwrs hyfforddi rheoli coetir yn gynaliadwy 12 wythnos yn lleoliad hyfryd Cwm Elan a wnaed yn bosib drwy brosiect Elan Links.
Yn ystod y 12 wythnos maent wedi wynebu gwyntoedd cryfion, glaw trwm, y tywydd rhewllyd a’r bwcedi o eira ond fe aethant ati gyda brwdfrydedd a gwên ar eu hwynebau.
Yn anhygoel fe wnaeth y tîm arolwg o goedwig, ffurfio cynllun rheoli a’i weithredu. Maent wedi clirio ardal fawr o adfywiad naturiol trwchus i greu amgylched coetir agored ar gyfer rhai o’r adar, planhigion a chennau prinnaf. Daethant hefyd o hyd i amser i greu llwybr bwrdd hyfryd yn y goedwig wedi’i wneud yn gwbl o goed o ystâd Elan.
Cwblhaodd 8 o’r 11 gwreiddiol y cwrs ac fe wnaeth pob un o’r 8 gyflawni 2 credyd Lefel 1 achrediad Agored Cymru. Mi fydd nifer o’r cyfranogwyr yn parhau ar ein Cwrs Dilyniant mewn ecoleg yng nghanol mis Mai.
O'r cwrs, dw i wedi gwneud ffridniadu newydd, ennill sgiliau, gwybodaeth, hyder ac ennill hunan-barch.
Hoffwn i ymchwilio'n ddyfnach i'r llwybr goedwigaeth gan fod fi wedi mwynhau hyn yn fawr.
Roedd yr awyrgylch yn un ymlaciedig iawn a'r diwrnodau'n brysur.