Grymuso Tir Coed: Cynllun Grantiau Cymunedol Catalydd Cymru

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 02 Ebrill 2024

Y llynedd, diolch i gefnogaeth hael Cynllun Grantiau Cymunedol Catalydd Cymru, fe wnaethom sicrhau grant o £2916 sydd wedi ein galluogi i gymryd camau breision i wella ein seilwaith digidol a hygyrchedd, gan ein grymuso i wasanaethu ein cymuned yn well a chysylltu hyd yn oed mwy o bobl gyda thir a choedwigoedd.

Roedd y grant yn ein galluogi i fuddsoddi mewn offer TG, sgiliau a gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at wneud ein helusen yn fwy proffesiynol, hygyrch, ac wedi’i galluogi’n ddigidol. Nid dim ond gwneud ein prosesau menwol yn llyfnach y mae’r buddsoddiad hwn; mae hefyd wedi ein helpu i gysylltu â chynulleidfa ehangach trwy lwyfannu digidol wedi’u huwchraddio a sianeli cyfathrebu, fel ein gwefan. Mae’r uwchraddiadau technoleg hyn wedi trawsnewid sut rydym yn gweithio ac yn ymgysylltu â’n partneriaid a’n buddiolwyr.

Wrth galon ein hymdrechion mae ymrwymiad i gynwysoldeb ac amrywiaeth. Gyda chefnogaeth Cynllun Grantiau Cymunedol Catalydd Cymru, rydym wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfaoedd mwy amrywiol a sicrhau bod ein prosiectau a’n gweithgareddau yn hygyrch i bob aelod o’n cymuend. Boed drwy ymdrechion allgymorth wedi’u teilwra neu drwy roi nodweddion hygyrchedd ar waith, rydym yn ymroddedig i chwalu rhwystrau a chreu amgylchedd cynhwysol lle mae gan bawb gyfle i ffynnu.

Wrth edrych ymlaen, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i adeiladu ar y momentwm hwn, gan barhau i arloesi, cydweithio, a chadw anghenion unigolion a chymunedau wrth wraidd yr hyn a wnawn.

  • Mae ein system gynadledda rithwir wedi gwella cyfathrebu mewnol ac allanol. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar amser ac adnoddau ar deithiau staff, sydd yn ei dro wedi ein helpu i ddod yn sefydliad mwy proffesiynol, ystwyth a chynaliadwy.
  • Mae gwelliannau i wefan Tir Coed wedi arwain at well hygyrchedd a chyfeillgarwch defnyddwyr, yn enwedig i unigolion ag anableddau gan gynnwys y rhai â nam ar eu golwg.
  • Mae ychwanegu map safle ar ein gwefan wedi gwella hygyrcherdd ymhellach drwy roi trosolwg i ddefnyddwyr o strwythur y wefan, gan ei gwneud yn haws iddynt lywio a dod o hyd i’r wybodaeth y meant yn chwilio amdani. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i ddefnyddwyr ag anableddau a allai ddibynnu ar ddulliau llywio amgen, megis darllenwyr sgrin.
  • Mae hyfforddiant a chefnogaeth i’r tîm cyfathrebu i gynnal safonau hygyrchedd digidol y tu hwnt i’r cyllid hwn wedi bod yn effaith barhaol i’r proseict.
  • Mae’r tîm yn adrodd bod “ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a hyder cynyddol” wrth ystyried hygyrchedd ym mhob elfen o ddyluniad a swyddogaeth cynnwys gwe.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed