Diwedd Cwrs Hyfforddi Ceredigion
Written by Tir Coed / Dydd Iau 26 Ebrill 2018
Dechreuodd y cwrs gyda 10 cyfranogwyr hynod frwdfrydig gydag awydd i ddysgu mwy am reoli’n gynaliadwy gyda dau diwtor yr un mor frwdfrydig, Rob Smith a Cath Rigler a dylanwad cadarnhaol y Mentor Cyfoed, Polly. Yn rhan o reoli coetir yn gynaliadwy, roedd ffocws ar reoli coetir ar gyfer pobl a bywyd gwyllt a phrosesu coed.
Ar ddiwedd y cwrs, rydym yn edrych yn ôl ar y gwaith gwych sydd wedi’i gwblhau gan y cyfranogwyr a’r hyn y maent wedi’u cyflawni o ganlyniad i’r cwrs. O’r 7 a gwblhaodd y cwrs, fe wnaeth y 7 dderbyn achrediad. Ni wnaeth un o’r cyfranogwyr gwblhau’r cwrs oherwydd ei fod wedi derbyn gwaith yn ystod y cyfnod, mae dau o’r cyfranogwyr yn gobeithio gwerthu eu gwaith coed yn Amgueddfa Ceredigion, ac y mae un wedi derbyn lleoliad gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanarchaeron.
Yn ogystal ag ennill achrediad, mae’r cyfranogwyr wedi datblygu’n bersonol. Mae pob un wedi mwynhau’r cwrs mas draw ac wedi dangos ymrwymiad er bod tywydd eithafol wedi bod yn eu hwynebu. Maent wedi wynebu gwynt, glaw, oerfel ac eira, ond ar y diwrnod olaf, roedd yr haul yn gwenu’n ddisglair uwch eu pennau a chynhesrwydd.
Maent yn fwy hyderus ac wedi ennill hunan-barch, wedi creu cyfeillgarwch, ennill sgiliau ymarferol newydd, â dealltwriaeth well o reoli coetir ac wedi bod yn rhan o dîm.
Llongyfarchiadau mawr i bawb ac rydym yn dymuno pob lwc i chi yn eich dilyniant personol a phroffesiynol.