Diwedd Cwrs Hyfforddi Cyntaf LEAF yn Sir Benfro
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 09 Mai 2018
Mae ‘na dân cynnes yn llosgi ar aelwyd tŷ crwn hyfryd newydd sbon yn Sir Benfro; wedi’i adeiladu gan gyfranogwyr y cwrs 12 wythnos o dan arweiniad profiadol Tony Wrench a Richard Sylvan. Dechreuodd 13 o gyfranogwyr y cwrs ac o’r 10 a gwblhaodd y cwrs fe wnaeth pob un dderbyn achrediad.
Mae ‘di rhoi ymdeimlad o hunanwerth i mi ac wedi fy helpu i gynnal ymataliad o ddefnydd cyffuriau. Dw wedi creu ffrindiau newydd.
“Maehyn yn rhoi Scolton ar y map!” Dywed Jerry Roberson, perchennog y goedwig, sydd wedi casglu’r pren yn bersonol ac yn garedig wedi darparu’r lleoliad perffaith.
Dw i wedi dysgu tipyn mwy nag oen i'n rhagweld.
Mae’r cyfranogwyr i gyd yn teimlo eu bod wedi ennill tipyn o’r cwrs 12 wythnos ac y mae un yn benodol wedi cymryd y cam nesaf tuag at sefydlu eu menter newydd, drwy weithredu ar y sgiliau newydd a’r hyfforddiant.
Heb y prosiect bydden i ddim wedi sefydlu busnes fy hun!
Llongyfarchiadau a diolch mawr i bawb sydd wedi benthyca eu dwylo, pennau a’u calonnau i adeiladu strwythur mor hyfryd. Dros y 12 wythnos diwethaf mae’r cyfranogwyr wedi gweithio mewn eira, gwynt a’r glaw i sicrhau ei fod yn digwydd. Bydd y strwythur yn rhoi cysgodfa hanfodol i flynyddoedd o weithgareddau coedwig, ac yn cael ei edmygu gan bawb sy’n cerdded drwy’r porth bwa pren.