Ffarwel hoffus wrth Leila
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 27 Mawrth 2018
Annwyl ffrindiau Tir Coed;
Gyda thristwch mawr, mi fyddaf yn ffarwelio â’r elusen ar ddiwedd mis Mawrth. Yn gyffrous, rwyf wedi derbyn swydd yng Nghernyw ac mi fyddaf yn codi fy mhac gyda fy nheulu i symud yno. Felly, mae gadael Tir Coed hefyd yn golygu symud o Gymru ar ôl ugain mlynedd, er rwyf wedi clywed bod traethau braf yng Nghernyw hefyd.
Yn ystod fy amser gyda Tir Coed mae llawer o bethau da wedi digwydd ac mi fyddai’n amhosib i’w rhestri i gyd, ond rwy’n falch bod y tîm wedi mynd o nerth i nerth. Yn ychwanegol i hyn mae wedi bod yn hyfryd bod adborth y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau a’r gweithgareddau wedi aros yn gadarnhaol iawn. Ac wedyn mae’r prosiectau newydd wedi cychwyn - LEAF, Elan Links, Dysgu am Goed, AnTir, Cynhwysiant Gweithredol. . . felly mi fyddai’n cadw llygad barcud ar y cynnydd o’r ochrau.
Mae pawb wedi fy nghroesawu â breichiau agored ac rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud ffrindiau oes ar hyd y ffordd. Dymunaf bob lwc i Tir Coed a phawb sy’n hwylio gyda hi ar gyfer y dyfodol.
Leila