Fforwm Sgiliau Coedwigaeth

Written by Tir Coed / Dydd Iau 08 Mawrth 2018

Rwy’n mwynhau mynd i’r crynoadau hyn gan eu bod yn tanio fy mrwdfrydedd ac yn fy ngwneud yn falch o’r rhan bach, ond arwyddocaol iawn, y mae Tir Coed yn ei chwarae yn nghyfanrwydd y llun.

Ysgogi trafodaeth, gwybodaeth diweddar am nifer o brosiectau gwych, mewnwelediad i’r ymarfer gorau a’r cyfle i helpu llunio dyfodol y sector coetiroedd a’r sector goedwigaeth, yw’r ychydig fuddion o fynychu’r digwyddiadau hyn.

Mae Tir Coed yn cyflawni rôl allweddol yn y grŵp DU hyn, yn nhermau hysbysu eraill o’n ffocws a’n datblygiadau ac o fod y sefydliad i’w chysylltu â hi yng Nghymru.

Diwrnod braf, heulog ar gyfer taith i Firmingham – beth well? Amser i weithio ar y trên gyda’r golygfa newidol yn ysbrydoli, tawelu ac adfywio – am beth braf.

Ar ddiwrnod Rhyngwladol y Merched roedd yn wych gallu mynychu cyfarfod ble’r oedd nifer o sefydliadau ar draws y DU sy’n rhan o’r sector Goedwigaeth, ac yn fwy pleserus byth i weld dros hanner y cynrhychiolwyr yn ferched.


Rwy’n mwynhau mynd i’r crynoadau hyn gan eu bod yn tanio fy mrwdfrydedd ac yn fy ngwneud yn falch o’r rhan bach, ond arwyddocaol iawn, y mae Tir Coed yn ei chwarae yn nghyfanrwydd y llun.

Ysgogi trafodaeth, gwybodaeth diweddar am nifer o brosiectau gwych, mewnwelediad i’r ymarfer gorau a’r cyfle i helpu llunio dyfodol y sector coetiroedd a’r sector goedwigaeth, yw’r ychydig fuddion o fynychu’r digwyddiadau hyn.

Mae Tir Coed yn cyflawni rôl allweddol yn y grŵp DU hyn, yn nhermau hysbysu eraill o’n ffocws a’n datblygiadau ac o fod y sefydliad i’w chysylltu â hi yng Nghymru.


Mae’r grŵp yn cyfarfod bob chwe mis, fel arfer ym Mhrifysgol Brimingham i drafod amryw eang o bynciau sy’n gysylltiedig â choedwigaeth diweddar, dal i fyny gyda’r datlygiadau y mae’r grŵp yn arwain arnynt, yn ogystal â derbyn diweddariadau ar y sefydliadau sy’n bresennol.

Roedd diweddariadau sefydliadau partner yn cynnwys: Birmingham Institute of Forest Research(BIFoR), Forest School Association (FSA), Woodland Trust, National School of Forestry - Cumbria Universtiy, Sylva Foundation, Forestry Commission, Hereford & Ludlow College, LANTRA, Forest Enterprise, Tir Coed, Adrow Consultancy, Royal Forestry Society (RFS), and Heart of England Forest. Darperir hyn llun cadarnhaol a gwybodus o’r prosiectau cyfredol a phrosiectau’r dyfodol ac yn amlygu nifer o ardaloedd y mae Tir Coed yn gweithio arnynt ochr yn ochr ag eraill i wthio’r agenda dilyniant sgiliau a gyrfa o fewn y sector.

Dilynnwyd gan gyflwyniadau a thrafodaethau amrywiol a olygodd y grŵp yn gwneud penderfyniad i ymestyn hyd cyfarfodydd y dyfodol i sicrhau mwy o amser i fynd i fanylder ar faterion pwysig, gallu rhwydweithio a gwenud cysylltiadau gyda sefydliadau eraill ac adeiladu ar bartneriaethau sy’n bodoli.

Mae gan Tir Coed nifer o gysylltiadau mewn prosiectau cyfredol sy’n gysylltiedig a’r ardaloedd o ddatblygu a drafodwyd ac mi fydd cyfarfodydd pellach gydag aelodau unigol o’r Fforwm i symud y syniadau hyn ymlaen i’r dyfodol agos.

Gwyliwch y gofod!

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed