Fforwm Sgiliau Coedwigaeth

Written by Tir Coed / Dydd Iau 07 Mehefin 2018

Diwrnod prydferth, poeth arall ar gyfer y daith drwy ganol cefn gwlad Cymru i Firmingham. Mae hyn yn troi’n arferiad croesawgar. Cymysgedd perffaith o amser tawel i weithio a’r pleser o’r dirwedd oedd yn newid yn gyson yn cynnig cipolwg o natur mewn lleoliad gwledig a threfol; y tro hwn gyda bonws o’r tocynnwr oedd â hiwmor i’n diddanu ym mhob gorsaf. Am ddiwrnod gwych i dreulio’r diwrnod gwaith - dwi’n caru fy swydd!


Mae’r Fforwm Sgiliau Coedwigaeth wedi mabwysiadu hyd newydd ar gyfer y cyfarfodydd i roi mwy o amser i drafod y gweithredoedd mewn manylder. Profodd hwn i fod yn newid hollol gadarnhaol a chynhyrchiol.

I ddechrau, cawsom y pleser o wrando ar Peter Kraftl, athro o Ysgol Daearyddiaeth Prifysgol Birmingham, a siaradodd am ei ymchwil i mewn i ‘Daearyddiaeth Plentyndod’ a ‘Daearyddiaeth Addysg Amgen’. Fe wnaeth hyn amlygu sut y mae prosesau cymdeithasol a phrosesau gofodol wedi’u cydblethu yn yr amgylchedd dysgu; a mynd i’r afael â materion sy’n berthnasol o lanast a threfn, arferion dysgu, cydberthynas rhwng pobl, cysylltiad a datgysylltiad.

Roedd hyn yn ysbrydoledig, addysgiadol ac yn cynhyrchu dadl gadarnhaol o fewn y grŵp. I mi, roedd hefyd yn codi nifer o ardaloedd ble gall Tir Coed, o bosib, gydweithio a sut all y ddoethuriaeth gysylltu â bwydo i brosiectau ymchwil ehangach sy’n cael eu cynllunio neu eu harwain. Amser cyffroes!

Ffocysodd y trafodaethau eraill ar:

  • Cynllun Gweithredu Sgiliau Coedwigaeth - gydag ardaloedd gwaith yn cael eu grwpio, eu graddio yn ôl blaenoriaeth, effaith a chyflawniad a phartneriaid arweiniol dynodedig yn neilltuo i fynd a materion ymhellach. Mae Tir Coed wedi dangos diddordeb i fod yn bartneriaid yn nifer o’r grwpiau hyn ac, yn yr wythnosau nesaf, yn gallu mewnbynnu i’r cynlluniau gweithredu penodol hyn.
  • Prentisiaethau - rhoi diweddariad o gynnydd y safonau Trailblazer newydd ac adborth o ddarparwr digwyddiad diweddar a gafodd ei gynnal yng Ngholeg Shuttleworth yn Swydd Bedford.Mae Tir Coed wedi cymryd rhan yn yr is-grŵp prentisiaethau ac erbyn hyn wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod gyda grŵp ffocws Coedwigaeth Cymru i ddechrau trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar sut y gall prentisiaethau tebyg symud ymlaen yng Nghymru.


Mae bob tro’n wych clywed diweddariadau o aelodau sy’n cynrychioli’r sefydliadau ac i sylweddoli bod Tir Coed yn chwarae rhan bwysig yn llun ehangach Coedwigaeth y Deyrnas Unedig.

Rhoddodd y cyfarfod mwy o gyfleoedd i rwydweithio gyda sefydliadau eraill a nifer o gysylltiadau posib.

Cyfarfod gwych gyda nifer o allbynnau cadarnhaol.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed