Cynaeadu Gwobrwyon y Tymor
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 25 Medi 2024
Mae cyrsiau Garddwriaeth Gynaliadwy eleni wedi dod i ben yn llwyddiannus ar draws y pedair sir, gyda 36 o unigolion gwych yn ennill achrediad ar draws pob safle!

Mae ein cwrs achrededig Agored Cymru yn cwmpasu ystod eang o egwyddorion, gan gynnwys asesu safle a rheoli pridd, lluosogi a phlannu ar gyfer tyfu bwyd, gofalu am blanhigion a chynnal a chadw a chynaeafu a rheoli safleoedd.
Yn ystod y cwrs, mae hyfforddeion yn helpu i greu a chynnal safle tyfu cymunedol ar gyfer cynhyrchu bwyd sydd hefyd o fudd i fywyd gwyllt. Mae'n rhoi gwybodaeth dda i gyfranogwyr am ddulliau garddio sy'n gyfeillgar i natur a thechnegau tyfu organig.

Paratowyd gwledd gan y grŵp i ddathlu diwrnod olaf y cwrs, gan ddefnyddio cynnyrch wedi’i dyfu, ei gynaeafu a’i baratoi’n ffres i greu amrywiaeth lliwgar a iachus o seigiau i’w rhannu.

Mae’r cyrsiau wedi cael effaith fawr ar yr hyfforddeion, sydd wedi adrodd eu bod wedi ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau, wedi cyfarfod â phobl hyfryd mewn amgylchedd hardd a meithringar ac ers dechrau’r cwrs yn teimlo gwelliant yn eu lles, eu hyder a’u cysylltiad ag eraill.
“Mae’r cwrs wedi gwneud gwahaniaeth SYLWEDDOL i fy lles meddyliol. Cwrs dwys sy’n newid bywyd".
Cafwyd rhai canlyniadau gwych gyda nifer o hyfforddeion yn cael gwaith yn y sector, yn mynd ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant ac eraill yn parhau i feithrin eu sgiliau a'u cyfeillgarwch trwy ddod yn wirfoddolwyr gweithgar yn eu gerddi cymunedol.
“Diolch am y cyfleoedd, yr anogaeth a’r gefnogaeth a gefais yn Nhir Coed, rwyf wedi llwyddo i drawsnewid fy mywyd er gwell. Rydw i nawr yn astudio, yn gyflogedig ac mae fy iechyd meddwl a lles wedi gwella ar y cyfan ac rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd hefyd. Ni allaf ddiolch digon i chi i gyd".