Iona yn ymuno â ni yn y coetiroedd
Written by Tir Coed / Dydd Llun 26 Ebrill 2021
Dywedwch ychydig amdanoch chi’ch hun…
Cefais fy magu ger Llanidloes, ar fferm gyda nifer o wirfoddolwyr a phreswylwyr oedd yn dod i ddysgu sgiliau newydd yn ymwneud â byw’n gynaliadwy. Rydyn ni’n gweithio gydag anifeiliaid, yn tyfu bwyd, yn plannu a rheoli coetiroedd, yn codi adeiladu gwyrdd, yn gwneud crefftau traddodiadol, yn cynnal dolydd blodau gwyllt a llawer mwy.
Rydw iwedi teithio ychydig, wedi astudio Seicoleg, wedi byw yng ngwlad Groeg am dipyn yn cefnogi ffoaduriaid ac yn gweithio ar brosiectau addysg yn ogystal â threulio ychydig amser yn y dwyrain canol yn gwneud yr un math o waith. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwy wedi bod yn gweithio yn y sector coedwigaeth.
Beth yw eich diddordebau?
Rwy’n caru dysgu. Rwy’n caru cysgu allan o dan y sêr, coginio, creu pethau, mynd ar antur allan i’r bryniau, a threulio amser gyda phobl hyfryd.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Rwy’n hynod gyffrous am fod yn rhan o ledaenu’r mwynhad o fod allan yn y coed, yn dysgu am natur a darganfod ein galluoedd ein hunain, mewn ffordd greadigol ac ymarferol.
Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am fod allan yn yr awyr agored?
Rwy’n caru ei gyfaredd mae rhywbeth rhyfeddol i’w weld, i ddysgu amdano a’i fwynhau o hyd.
Beth sy’n eich ysbrydoli?
Cymaint o bethau! Yn bennaf, am wn i, pobl eraill, eu gallu, eu creadigrwydd a’u sgiliau, eu meddylgarwch, a’u dyfalbarhad.
Beth yw eich hoff dymor o’r flwyddyn a pham?
Y gwanwyn. Rwy’n caru gweld y blagur ar y coed yn dechrau chwyddo wrth i ddail bychan, pert ddod allan. Mae’r blodau hefyd yn codi fy nghalon a’r holl flodau gwyllt sy’n ymddangos ac yn gwneud i mi deimlo’n gyffrous am adnabod bwyd a chwilota amdano. Mae’n brofiad hudolus bob tro!
Petaech chi’n goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Gwernen, rwy’n caru fod gan bob un gymeriadu mor unigryw, rwy’n caru’r blagur porffor a’r gwyddau bach sy’n rhoi sblash o liw yn y gaeaf, rwy’n caru eu bod nhw i’w gweld wrth ymyl nentydd – mannau delfrydol i ddadflino, ymlacio a mentro i’r dŵr!