Cyllid “achubiaeth” wedi'i sicrhau ar gyfer Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 18 Ionawr 2023

Mae cyfraniad o £123,094 tuag at Brosiect AnTir Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro a £93,630 tuag at AnTir Ceredigion a Phowys yn galluogi’r elusen ddysgu a lles i weithio gyda dros 1000 o bobl i wella coetiroedd, gerddi cymunedol a mannau sy’n agored i’r cyhoedd ar gyfer natur a chymunedau lleol, wrth wella hyder a sgiliau cyfranogwyr a dyfarnu unedau achrededig.

Mae AnTir yn ehangu darpariaeth coetir Tir Coed i gynnwys tyfu bwyd sy’n gyfeillgar i natur, arferion adfywio fel adfer perthi, dolydd neu berllannau - a sgiliau treftadaeth ehangach.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cath Seymour: “Mae hyn yn newyddion gwych - ac yn achubiaeth wirioneddol i Tir Coed! Mae’n golygu y gallwn barhau i gefnogi pobl ddifreintiedig, gan hyfforddi’r rheini sy'n dymuno symud ymlaen i swyddi neu wirfoddoli yn yr awyr agored, a gwella mannau cymunedol er budd pawb. Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cyfrannu ein rhan fach ni i helpu cymunedau lleol i ddod yn fwy gwydn – yn wyneb newid hinsawdd, yr argyfwng natur, heriau iechyd corfforol a meddyliol a nawr yr argyfwng costau byw hefyd!”

Er bod angen i Tir Coed godi rhagor o arian i gyflawni’r prosiect AnTir uchelgeisiol, mae Cath yn dweud bod cyllid grant CNC yn gwneud eu targedau “yn llawer mwy cyraeddadwy.”

Dywedodd Sarah Coakham, Uwch Swyddog (Cyllid) Tîm Pobl a Lleoedd CNC, Canolbarth Cymru, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Tir Coed ar y prosiect hwn, gan gysylltu pobl â’u hamgylchedd wrth gynyddu sgiliau, gwella iechyd, lles a’r amgylchedd. Bydd y Grant Cymunedau Gwydn yn rhoi’r cyfleoedd i gymunedau adfer a gwella byd natur yn eu hardaloedd lleol, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru a’r rhai nad oes ganddynt fawr ddim mynediad at natur, gan ein helpu ni i gyd i ymateb i heriau’r argyfwng hinsawdd a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.”

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed