Tîm Rheoli yn ymweld â Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 14 Awst 2018

Ar ddydd Mawrth gogoneddus o ddisglair a hafaidd ymunodd yr uwch reolwyr â thîm Sir Benfro i wneud taith o goedwigoedd hyfryd Sir Benfro ble rydym wedi bod yn gweithredu dros y 18 mis diwethaf ac i ymweld â rhai o’r lleoliadau posib newydd, gan gynyddu cangen Tir Coed ymhellach ar draws y sir.

   

Dechreuwyd y daith yng Ngholeg Coppice Wood gan gyfarfod â Claire Turner sydd wedi bod yn cyflwyno Cwrs Croeso Tir Coed yn ddiweddar. Rhoddwyd taith angerddol a llawn egni o Goleg Coppice Wood gan Claire gan gyflwyno i’r tîm yr amrywiaeth o weithgareddau a wnaed yno.

 

Aethom ymlaen wedyn i ymweld â Jerry yng Nghoed Scolton ac i ryfeddu ar y strwythurau prydferth y mae hyfforddeion Tir Coed wedi’i adeiladu yno. Cyflwynodd Tir Coed raglen LEAF pilot yn Scolton ac maent wedi parhau i gyflwyno sesiynau gweithgaredd a chyrsiau hyfforddi yno ers i’r prosiect llawn ddechrau yno yn Nhachwedd 2017. Mae ymrwymiad a chefnogaeth Jerry i brosiect Tir Coed wedi bod yn gyfrannog o lwyddiant y prosiect LEAF hyd yn hyn. Mae iechyd meddwl, lles a hyfforddiant sgiliau coetir yn faterion sy’n agos iawn at galon Jerry ac y mae ef a’i wraig Charlotte wedi rhoi croeso calonnog i fuddiolwyr Tir Coed i’w coedwig hardd.


Yn dilyn tamaid o ginio, fe aeth y tîm ymlaen i ymweld The Woodland Farm ble mae cwrs hyfforddi 12 wythnos nesaf Tir Coed yn cael ei gynnal cyn symud ymlaen i Mill Wood yn Hwlffordd. Perchnogaeth y cyngor tref yw coedwig Mill Wood gyda mynediad cyhoeddus drwyddo. Mae nifer fawr o’r bobl leol yn mwynhau heddwch a llonyddwch y goedwig ar gyrion y dref. Yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr y Cyngor Tref, mae’n edrych yn debygol y bydd Tir Coed yn cynnig gweithgareddau gwirfoddoli a hyfforddiant ar y safle i wella cyfleusterau’r goedwig a chefnogi’r arferion rheoli - cadwch lygad ar y datblygiadau!

   

Roedd yn wych gweld ehangder allgymorth y prosiect yn Sir Benfro ac i weld gwaith cadarnhaol y gwirfoddolwyr yn uniongyrchol. Da iawn i bawb yn Sir Benfro am y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud.

     

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed