Martyn yn bwrw ymlaen â’r gwaith fel Mentor newydd Tir Coed
Written by Tir Coed / Dydd Llun 04 Gorffennaf 2022
Rwy’n llenwi’r rôl fel Mentor Sir Gaerfyrddin am ychydig fisoedd fel staff llanw dros seibiant mamolaeth, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio yma ac yn gobeithio gwneud gwahaniaeth. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at fod yn rhan o dîm gwych a dysgu cymaint ag y gallaf ganddynt.
Dywedwch rywbeth bach am eich hun…
Rydw i wedi bod yn arddwr am yr 17 mlynedd diwethaf ac yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i wedi bod yn datblygu fy ngwybodaeth am gadwraeth, gan gwblhau fy ngradd Meistr mewn cadwraeth amgylcheddol a gwirfoddoli gyda RSPB a Coed Cadw. Sylwais fy mod yn treulio fy holl amser yn gweithio ar brosiectau cadwraeth cymunedol lleol, felly penderfynais newid swyddi.
Beth yw eich diddordebau?
Rwy’n chwarae sboncen a thenis bwrdd ac rwy’n gallu chwarae’r iwcalili i raddau. Rwy’n canu mewn côr meibion ac rydw i ynghlwm wrth ddatblygu chwaraeon anabledd a chynhwysiant cymdeithasol yn fy nghlwb rygbi lleol yn Arberth. Rydw i fwyaf hapus allan yng nghefn gwlad, ar fy nwylo a’m cliniau, yn adnabod (neu’n ceisio adnabod) planhigion gyda fy nghyd-selogion natur.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Y cyfle i wella bywydau pobl trwy eu cysylltu nhw â byd natur, yn ogystal â’u cefnogi a’u hysbrydoli nhw ar ddechrau bywyd newydd, gobeithio.
Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?
Yr aroglau, y synau a’r llonyddwch o fod ymhell i ffwrdd o bobl (a ffonau symudol).
Pa un yw eich hoff dymor a pham?
Fel garddwr, rwy’n caru’r gwanwyn a’r cyffro o weld planhigion yn atgyfodi’n hudol ac anifeiliaid yn dihuno o’u gaeafgwsg. Hau hadau yn yr ardd lysiau gyda disgwylgarwch awchus. Ond, fel garddwr rydw i hefyd yn mwynhau’r hydref, gan fy mod yn barod i gael seibiant o’r holl waith. Felly, mi wna i gyfarfod yn y canol a dewis y gaeaf, boreau rhewllyd yn y gaeaf yw’r goreuon.
Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Derwen gorc efallai. Byddwn yn gallu byw ar lannau’r Canolfor, cefnogi bioamrywiaeth ddiwylliannol anhygoel a chefnogi’r diwydiant gwin Ffrengig (hobi arall yr anghofiais i sôn amdano ynghynt).