Cyfarfod â'n mentor newydd

Written by Tir Coed / Dydd Llun 22 Chwefror 2021

Helo. Jenna ydw i, mentor newydd Tir Coed yn Sir Gaerfyrddin. 


Dechreuais y swydd yn ar ddechrau mis Rhagfyr ac rwy’n dal i fod wrthi’n ymgyfarwyddo â phopeth, ond rwyf wedi dysgu’n sydyn iawn fy mod i wedi ymuno â thîm gwych o bobl ddiddorol a chyfeillgar sy’n gwneud gwaith anhygoel yn yr awyr agored.

Mae Ben a Peter, yr Arweinwyr Gweithgareddau, wedi bod yn wych. Maen nhw wedi fy helpu ar hyd y ffordd wrth i mi ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â’m helpu i ymgyfarwyddo â’r swydd. Mae gen i hyd yn oed sbatwla (hynod o gam) i ddangos am fy ymdrechion!

Dywedwch rywbeth bach am eich hun...

Cefais fy magu yn Sir Gaerfyrddin cyn mynd i’r brifysgol i astudio gwyddor amgylcheddol. Bues i’n gweithio ar nifer o brosiectau cefnogi cyflogaeth ar ran sefydliad nid er elw cyn symud i weithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel swyddog profiad ymwelwyr,  lle bûm yn gweithio hyd at ddechrau’r flwyddyn. 

Beth yw eich diddordebau?

Rwy’n gerddwr brwd ac mae archwilio llwybrau troed neu fynd i’r bryniau gyda phabell a fy nau gi yn bethau rwy’n eu mwynhau’n fawr. Mae gen i ddiddordeb mewn prosiectau cadwraeth, treftadaeth a gwylio bywyd gwyllt ac rydw i wrth fy modd yn darllen unrhyw lyfrau da.

Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?

Rwyf wedi bod eisiau helpu cysylltu pobl â lleoedd erioed, felly mae’r rôl hon yn berffaith i mi. Mae cwrdd â phobl newydd a’u cefnogi nhw ar eu taith yn fy nghyffroi, boed hynny wrth iddynt chwilio am waith, gwirfoddoli neu ddarganfod diddordeb newydd a gwella’u lles.

Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?

Mae’r awyr agored yn fy ngalluogi i ymlacio a thawelu fy meddwl, felly rwy’n mwynhau’r buddion corfforol ac ar gyfer fy iechyd meddwl yn bennaf.

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Mae yna feirdd rhagorol sy’n ysgrifennu’n wych am eu cysylltiad â byd natur. Maen nhw’n fy ysbrydoli i fynd allan i’r awyr agored, beth bynnag fo’r tywydd. Mae’r gerdd ‘The Wild in Me’ gan Helen Mort yn wych.

Pa un yw eich hoff dymor a pham?

Mae’n siŵr mai dyma’r cwestiwn anoddaf un - yn enwedig i rywun mor amhendant â fi. Rwy’n dewis y gaeaf oherwydd roedd heddiw’n un o’r diwrnodau gaeafol hyfryd (ond prin) hynny, sy’n oer ac yn ffres, lle'r oedd yr haul yn tywynnu. Nid oes teimlad gwell na gwisgo het, lapio sgarff amdanoch a mynd allan gyda fflasg o siocled poeth ar ddiwrnod fel heddiw.

Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?

Hoffwn i fod yn Ysgawen, gan fy mod wrth fy modd yn fforio blodau a mwyar i wneud llawer o ryseitiau hyfryd a byddwn i’n cadw rhywfaint ohonynt ar gyfer yr adar a’r pathewod hefyd.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed