Ymunodd Mind Sir Benfro a Tir Coed ar gyfer Crefft byw yn y gwyllt
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 31 Awst 2018
Ddydd Mawrth cynhaliwyd sesiwn gweithgaredd wedi’u teilwra i grŵp o Mind Sir Benfro. Mae ein sesiynau gweithgaredd wedi’u llunio o gwmpas diddordebau a gofynion pob grŵp. Fe ddewison nhw’r dyddiad ac aethom ni ati i ddewis y weithgaredd, y tiwtoriaid a’r goedwig y byddai’n addas iddyn nhw. Mae’r grŵp wedi’u lleoli’n bennaf yn Hwlffordd felly daethom o hyd i goedwig oedd yn agos y byddai’n hawdd iddynt gyrraedd. Dewiswyd y safle ble adeiladwyd y tŷ crwn hyfryd yn gynharach eleni. Golyga hyn bod cysgod ar gael pe bai angen.
Pan siarades i gyda Sara o Mind am yr hyn hoffai’r grŵp wneud yn ystod y sesiwn, dywedodd eu bod wedi ceisio cynnau tân yn ddiweddar a’u bod wedi cael gwaith gwneud hynny. Trafodwyd y peth a phenderfynwyd y byddai Anti Goedwig i oedolion yn gweithio’n dda.
Arweiniwyd y sesiwn gan ddwy o’n tiwtoriaid hyfryd sydd â thipyn o brofiad o weithio gyda phobl fawr a bach yn y goedwig. Gyda sesiwn ar gynnau tân yn ddiogel, roedd ffocws ar grefft byw yn y gwyllt. Roedd y gweithgareddau eraill yn cynnwys defnyddio offer llaw i wneud cwcis, gwneud golosg, adnabod coed, Hapa Zome ac wrth gwrs tostio marshmallows!
Dywedodd Sara “Roedd yn ddiwrnod gwych, roedd yn dda edrych o gwmpas a gweld pawb yn diddori yn yr hyn oeddent yn ei wneud, roedd pawb yn gwneud rhywbeth gwahanol ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd, gwych.”
Os ydych chi’n ymwybodol o grŵp y byddai â diddordeb yn un o’n sesiynau gweithgaredd, cysylltwch â ni yn y brif swyddfa ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y Cydlynydd ardal: 01970 636909 / [email protected]