Ail yn Elusend Wledig Orau'r Flwyddyn
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018
Mae Tir Coed yn falch o gyhoeddi eu bod wedi dod yn ail yn un o Fenterau Cymdeithasol, Elusen neu'r Prosiect Cymunedol Gwledig Gorau'r flwyddyn yn rhanbarth Cymru a Gogledd Iwerddon. Gwnaed y cyhoeddiad mewn digwyddiad gwobrwyo yng Ngwesty Kimnel, Abergele ar y 16eg o Hydref. Bydd yr enillwyr rhanbarthol yn cael eu rhoi ymlaen i gystadlu yn genedlaethol fydd cael ei gyhoeddi yn Swydd Gaerwrangon ar ddydd Iau'r 28ain o Chwefror 2019.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf o ymgysylltu pobl â choetiroedd, rydym wedi gweld miloedd o bobl yn datblygu eu sgiliau a chynyddu lles, gan gefnogi nifer i newid eu bywydau. Mae’n wych cael cydnabyddiaeth am y gwaith gwerthfawr rydym yn ei wneud yn y cymunedau gwledig
Nod Gwobrau Busnesau Gwledig yw cydnabod busnesau sy’n gweithredu ar draws y sector wledig ac i ddathlu cyflawniadau busnesau gwledig ar draws y Deyrnas Unedig.
Ymysg yr enillwyr oedd ein partneriaid y cyrsiau dilyniant, MWMAC a enillodd y Busnes Addysg neu Hyfforddiant Cefn Gwlad gorau ac mi fyddant yn mynd ymlaen i gystadlu’n genedlaethol yn Swydd Gaerwrangon ym mis Chwefror.
Llongyfarchiadau i bob terfynwr a phob lwc i’r enillwyr rhanbarthol yn y rownd derfynol, genedlaethol.