Cwrs Gwaith Coed yr Haf 2022 yn Yr Ardd, Llandysul

Written by Tir Coed / Dydd Sadwrn 01 Hydref 2022

Cyrhaeddodd grŵp brwdfrydig o gyfranogwyr cwrs haf ar safle gwag yn Yr Ardd, Llandysul, yn barod i droi rhai boncyffion, a oedd yn grystyn â rhisgl, yn gysgodfan cymunedol er budd garddwyr lleol a’r gymuned ehangach.

Nod Yr Ardd yw creu ardal gymunedol ddiogel a chroesawgar, lle all garddwyr cymunedol ddod at ei gilydd i dyfu ystod o blanhigion a chymdeithasu yn yr awyr agored ym Mhont-Tyweli, Llandysul.

Dynododd dyfodiad ein hyfforddeion ddechrau cwrs gwaith coed yr haf i’n tîm yng Ngheredigion, lle y mae cyfranogwyr yn dysgu gwaith coed coetir a sgiliau awyr agored eraill, gan gynnwys arferion gweithio diogel a defnydd diogel o offer, am 2 ddiwrnod bob wythnos dros gyfnod o 12 wythnos.

Cam cyntaf y dasg o adeiladu cysgodfan oedd symud y boncyffion i’r safle gyda llaw trwy danffordd gul. Ar ôl gwaith tîm, codi a chario gofalus a llawer o chwythu bygythion, symudwyd y boncyffion gan ddwylo brwdfrydig i’r rhandir.

Unwaith yr oeddent ar y safle, dirisglwyd y boncyffion gan yr hyfforddeion gan ddefnyddio rhasglau miniog. Yna, ar ôl hogi’r llifiau a’r cynion, cafodd y mesuriadau manwl cywir eu cymryd a’r uniadau tynnon eu torri a’u ffurfio.

Cafodd sgiliau gwaith coed eu harddangos, eu dysgu a’u hymarfer hyd nes y cwblhawyd y pyst pren, a oedd wedi’u torri i’r maint iawn, eu cerfio a’u saernïo’n ofalus (fel y gellir eu cysylltu ag uniadau wedi’u drilio a rhai naddedig), gan ein hegin seiri coedwig.

Yr her fwyaf oedd y gwres canol haf eithafol. Er oedd y tarpolinau’n darparu rhywfaint o gysgod rhag yr haul didrugaredd ac yn cynnig lle i weithio ac adennill nerth, ni welsom y fath effeithiau eithafol ar ein prennau, ac roedd amseriad y tywydd poeth bron â bod yn drychinebus.

Roedd gwres a ffyrnigrwydd yr haul wedi cracio a hollti rhai o’r prif drawstiau a’u gwneud yn ofer…a beth oedd datrysiad y tîm? Ailwneud y prif drawstiau unwaith eto gyda brwdfrydedd pur.

Er nad oedd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau’n gyfan gwbl, roedd holl rannau’r adeilad wedi’u cwblhau ac roedd y ffrâm wedi’i chodi, ond daeth y cwrs 12 wythnos i ben.

Ond, byddwn yn ôl cyn bo hir: byddwn yn cydweithredu â thîm Sir Gaerfyrddin Tir Coed ar gyfer Wythnos Ddilyniant Crefftau Treftadaeth yn Yr Ardd, lle byddwn yn hogi sgiliau saernïo’r hyfforddeion ymhellach – yn ogystal â chwblhau’r gwaith adeiladu.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed