Cylchlythyr yr haf

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 06 Gorffennaf 2022

Newyddion am y Prif Swyddog Gweithredol

Mae Prif Swyddog Gweithredol Tir Coed, Ffion Farnell, wedi cyhoeddi y bydd hi’n gadael yr elusen ar ôl treulio’r rhan fwyaf o ddegawd wrth y llyw. 

Gall Ffion edrych yn ôl ar ei chyflawniadau gyda balchder anferthol, gan ei bod wedi trawsnewid Tir Coed i fod yn elusen ffyniannus fel y mae heddiw, ehangu ei chwmpas a’i chyrhaeddiad tra’n helpu cefnogi miloedd o unigolion ar eu teithiau i iechyd a lles, hyfforddiant, cyflogaeth neu fenter well.


Rydym nawr yn ceisio chwilio am rywun a fyddai’n gallu llenwi’r rôl enfawr y bydd Ffion yn gadael yn wag.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynglŷn â swydd wag y Prif Swyddog Gweithredol.

Ar y Tir

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae safleoedd Tir Coed wedi gweld llawer o weithgarwch.

Cwblhaodd 15 unigolyn y cwrs gan ennill tystysgrifau mewn seremonïau Wythnos Croesawu a gynhaliwyd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae cyfranogwyr yn y bedair sir bellach wedi dechrau eu cyrsiau haf gwaith saer coetir 12 wythnos ers amser gyda 41 o hyfforddeion yn gweithio tuag at achrediad Agored Cymru.

Yn Llandysul, Ceredigion, mae hyfforddeion yn adeiladu lloches bren, crwn ar safle gardd gymunedol Yr Ardd fel rhan o brosiect partneriaeth a ariennir gan Gronfa Cefn Gwlad y Tywysog. Mae gwaith wedi dechrau yng Nghoedwig Scolton, Sir Benfro, i ailadeiladu hen weithdy. Yn y cyfamser, bu hyfforddeion Sir Gaerfyrddin yn creu llwybrau pren, nodwyr llwybrau traed a mainc ddwbl bwrpasol er mwyn gwella mynediad cyhoeddus i Barc Coetir Mynydd Mawr a sicrhau bod pobl yn mwynhau ymweld â’r Parc. Yng Nghwm Elan, mae tîm Powys wedi bod yn dylunio ac adeiladu meinciau picnic a phoptai pridd ar gyfer safle’r tŷ bynciau yng Nghwm Clyd.

Mae’r cyrsiau’n cwmpasu dwy uned ddysgu, Gwaith Saer Coetir a Sgiliau Ymarferol yn yr Awyr Agored ac maent yn galluogi hyfforddeion i ennill Gwobr 5 credyd a allai gyfrannu tuag at gymhwyster Gofalu Tir Coed. Eleni, bydd yr hyfforddeion yn dysgu ac yn gwneud eu hasesiadau gan ddefnyddio ein llyfrau gwaith digidol newydd mewn 3 sir, gyda’r hyfforddeion yn y bedwaredd sir yn defnyddio llyfrau gwaith papur, wrth i ni barhau i dreialu gwahanol opsiynau i amlygu dysgu.


Sesiynau Gweithgaredd Pwrpasol

Gyda’r tywydd yn gwella, rydym wedi gweld chwa o ymholiadau ynghylch gweithgareddau awyr agored pwrpasol ar gyfer grwpiau cymunedol, ysgolion a phobl ifanc – a hyd yn hyn eleni, rydym wedi cyflwyno 26 sesiwn grŵp o fewn ein prosiect LEAF yn ogystal â 52 sesiwn fel Hyfforddiant Pwrpas Cynradd. Rydym hefyd wedi cynllunio llawer mwy o weithgareddau ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf.

Sioeau a Digwyddiadau

Tymor y sioeau yw’r Haf ac rydym wedi dechrau crwydro i ledaenu neges Tir Coed a chadw mewn cysylltiad â’n cymunedau yn barod. Mynychodd cydlynwyr Tir Coed yn Sir Benfro a Cheredigion ffair gyrfaoedd yn Aberteifi a bu rhai ohonom yn gweithio ar ein stondin yn Sioe Aberystwyth.

Prosiectau Peilot AnTir

Rydym wedi sicrhau cyllid cynllun Arian i Bawb Cronfa Gymunedol y Loteri er mwyn i’n tîm yn Sir Benfro sefydlu gofod tyfu cymunedol – a chyflwyno cwrs tyfu – yn Fferm Cilraeth, ger Arberth. Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu ar y cyd â’r Pembrokeshire Food Bank. Mae’r cwrs 12 wythnos wedi hen ddechrau a, thrwy arweinyddiaeth y Tiwtoriaid llawrydd Peni a Melissa, mae wedi ymgorffori ystod eang o weithgareddau tyfu diddorol iawn. Mae Beth, sef Cydlynydd Sir Benfro, hefyd wedi sicrhau pecyn datblygu Cadwch Gymru’n Daclus i gyflenwi digonedd o offer i’r prosiect er mwyn rheoli’r safle ar gyfer cynyddu ei bioamrywiaeth.

Yn y cyfamser, mae ein Prosiect Dichonadwyedd AnTir yng Ngheredigion, a ariennir gan y Gronfa Adfywio Cymunedol, wedi rhoi’r cyfle amhrisiadwy i ni ymchwilio, treialu a phrofi syniadau newydd ar gyfer dyfodol Tir Coed. Roedd y rhain yn cynnwys holi rheolwyr tir i ganfod pa sgiliau y byddant eu hangen gan weithwyr, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod ein cyrsiau’n darparu’r sgiliau hynny. Gorffennodd un allan o’r 2 gwrs peilot tyfu a gafodd eu cyflwyno fel rhan o’r prosiect yng Ngerddi Tyllwyd, Llanfarian, gyda 5 hyfforddai yn ennill uned lefel 2 mewn Garddio Bywyd Gwyllt. Bu’r grŵp yn dathlu trwy groesawu eu teuluoedd i’r ardd er mwyn arddangos eu gwaith a mwynhau bwyd cartref a chacen hyfryd.

Mae’r ail gwrs, yn Llanerchaeron, sy’n canolbwyntio ar dechnegau garddio organig, yn parhau i redeg ac mae’r hyfforddeion yn gweithio’n galed i gwblhau’r achrediad.


Mae Prosiect Dichonadwyedd AnTir wedi ein helpu i roi hwb i’n niferoedd o wirfoddolwyr mewn 4 safle yng Ngheredigion gydag ystod o grwpiau lleol, gan gynnwys sesiwn sydd ar y gweill yn gweithio ochr yn ochr â Ramblers Cymru i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol ar hyd glannau’r Afon Rheidol. Ar hyn o bryd, rydym wedi cyflwyno 23 sesiwn, sef 400 awr o wirfoddoli, i 17 unigolyn eleni a hoffem barhau i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y bedair sir.

Partneriaethau Tyfu

Rydym hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill grant gan Gyngor Tref Aberystwyth i ddarparu ystod o weithgareddau trwy gydol yr haf, gan gynnwys sesiynau yng ngofod cymunedol newydd Ffordd y Gogledd. Diolch i’r cyllid hwn, byddwn yn partneru â Tyfu Dyfi, Garden Organic, Fforwm Cymuned Penparcau, Bwyd Dros Ben Aber, Tyfu Aber, Bwyd Aber a grwpiau lleol eraill i ddarparu pythefnos o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y gymuned a fydd yn dathlu garddio cymunedol, tyfu a thyfu bwyd mewn gofod agored.

Arolwg Rheoli Tir

Fel rhan o’n nod i ddatgloi potensial tir a choetiroedd ar gyfer darparu cyfleusterau cymunedol awyr agored, gweithgareddau addysgol ac iechyd a chyfleoedd am swyddi ar gyfer pobl ddifreintiedig yng nghefn gwlad Cymru, hoffem glywed gan ffermwyr, rheolwyr tir, garddwyr marchnad, tirfeddiannwyr, busnesau gwledig a grwpiau cymunedol sy’n gyfrifol am reoli tir yng Ngheredigion.

Er mwyn ein helpu ni i ddeall y materion rydych chi’n eu hwynebu yn well, byddem yn ddiolchgar tu hwnt pe gallech chi roi ychydig funudau o’ch amser i gwblhau un o’n harolygon. Os ydych yn fusnes gwledig neu’n grŵp cymunedol, cliciwch yma: https://bit.ly/3PaoPqT. Os ydych yn ffermwr neu’n dirfeddiannwr, cliciwch yma: https://bit.ly/3a4vhQr

Staffio

Mae hyd yn oed rhagor o newyddion da wrth i ddau aelod newydd ymuno â theulu Tir Coed. Roedd Nancy, Cydlynydd Sir Gaerfyrddin, wedi rhoi genedigaeth i globyn o fachgen bach. Bydd Jenna, sef Mentor Sir Gaerfyrddin, yn ymgymryd â’r rôl tra bod Nancy ar famolaeth, ac rydym yn falch iawn o allu croesawu Martyn Davies i’r tîm fel Mentor newydd y sir.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed