Heulwen a hwyl yn y coed yn Sir Gâr

Written by Tir Coed / Dydd Llun 27 Medi 2021

Rydym ni wedi bod yn brysur iawn dros yr haf yn Sir Gâr, gyda phum hyfforddai’n cwblhau eu cwrs Gwaith Coed yn y Coetir dros gyfnod o 12 wythnos, gyda 4 arall yn symud ymlaen i gwblhau hyfforddiant pellach gyda Tir Coed.

Fe wnaethom ni ddathlu diwedd y cwrs Gwaith Coed mewn steil, gyda barbeciw blasus gyda dail salad hyfryd a dyfwyd gartref ar yr ochr, cyn cyflwyno’r tystysgrifau. Cafodd hyfforddeion gyfle i ddangos yr hyn yr oedden nhw wedi’i adeiladu, gan gynnwys y giât Japaneaidd a oedd yn gefndir hyfryd ar gyfer lluniau.


Fe wnaethom ni hefyd wahodd Will, un o’n tiwtoriaid llawrydd, i’r goedwig i gyflwyno cwrs pum niwrnod ar grefftau treftadaeth. Yn ystod y cwrs, bu ein hyfforddwyr Bob, Adam, Rhonwen a Tony yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn adeiladu turn polyn. Ar ôl ei gwblhau, cawsom gyfle i’w ddefnyddio er mwyn turnio coed. 

Fe wnaeth pob un ohonom fwynhau’r wythnos, a chawsom fudd o’r wybodaeth, y mewnwelediad, y gefnogaeth a’r anogaeth a gawsom gan Will - death yr unig gŵyn gan Bob, a fyddai wedi hoffi i'r cwrs fod yn hirach!


Rydym ni’n edrych ymlaen at wneud mwy o ddefnydd o’r turn polyn drwy gydol y flwyddyn, ac rydym ni’n gyffrous i groesawu ein hyfforddeion yn ôl ym mis Tachwedd ar gyfer y cwrs 12 wythnos ar Reoli Coetiroedd yn Gynaliadwy.

Yn y cyfamser, rydym ni’n anfon ein harweinwyr gweithgaredd Ben a Peter i Goedwig Brechfa, lle byddant yn cynnal sesiynau gwirfoddoli a gweithgareddau wedi’u teilwra ar gyfer preswylwyr a grwpiau yn yr ardal.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ar draws Sir Gâr, cysylltwch â ni.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed