Rheolaeth Coetir Cynaliadwy ym Mhenfro
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 01 Ionawr 2019
Mae cwrs hyfforddi diweddaraf Sir Benfro mewn rheolaeth coetir cynaliadwy wedi cychwyn ar safle Greenlinks ym Mhenfro. Rydym wedi bod ar ben ein digon gyda’r nifer o unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs, ymddiheuriadau i’r bobl hynny sy’n gorfod aros yn amyneddgar ar y rhestr aros.
Fe wnaeth deg o hyfforddai ddechrau ar fore Llun oer i ymuno mewn trafodaethau bywiog am ddiogelwch cyn bwrw mewn i wneud tasgau hanfodol o gynau tân a rhoi’r tegell ymlaen. Ar ôl paned, ystyrir rhywogaethau coed, eu defnydd, a sut y meant yn tyfu.
Dechreuodd pawb ar y gwaith o greu mainc gan ddefnyddio coed slab (y darnau o risgl sydd ar ôl wedi melino boncyff), a gwneud coesau o foncyff hollt oedd ar y safle, gan eu siapio a’u cysylltu â thyno a mortais gron.
Yn ystod sesiwn y prynhawn, aethom am dro yn yr haul o gwmpas y goedwig, ac ymgyfarwyddo a’r amgylchedd a gweld pa rywogaethau gwahanol o goed a’u maint. Aethom ati i dorri ambell i bolyn cnau cyll yn barod ar gyfer gosod y tarpolin y diwrnod canlynol gan fod y rhagolygon yn dangos glaw trwm.
Gwawriodd bore Mawrth gyda chymylau trwm a glaw trwmol. Dangosodd un ar ddeg o’r hyfforddeion ei ymrwymiad a’u brwdfrydedd gan ddod er gwaetha’r glaw trwm.
Da iawn i’r hyfforddeion am ddod i’r goedwig er gwaetha’r tywydd, edrychwn ymlaen at eich gweld chi eto wythnos nesa. Parch i’n tiwtoriaid Wil ac Eugene sydd wedi llenwi’r hyfforddai â brwdfrydedd gyda’u hangerdd tuag at goed a gwaith coed irlas, a diolch mawr i Greenlinks am roi mynediad i ni i’r goedwig ar fferm Glan y Môr a darparu’r darnau o goed sydd angen arnom i osod camp a’i wneud yn fwy cyfforddus.