Rheoli Coetir yn Gynaladwy - Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 09 Hydref 2018

Mae ail gwrs hyfforddi 12 wythnos wedi dechrau yn sir Benfro. Mae 10 cyfranogwr yn dysgu am reoli coetir yn gynaliadwy yn y Woodland Farm sydd tu allan i Hwlffordd. Dros y 12 wythnos, byddant yn dysgu am wahanol dechnegau rheoli, gan ddefnyddio offer llaw, ennill sgiliau rheoli cefn gwlad hanfodol a gwella’r goedwig ar gyfer ein gwesteiwyr hyfryd.


Linda a Steve yw perchnogion y Woodland Farm sy’n defnyddio paramaethu ar eu safle ble maent yn tyfu blodau ar gyfer eu busnes blodeuwriaeth crefft. Mae ganddynt hefyd 16 erw o goedwig lydanddail gymysg y maent yn ei reoli ar gyfer bywyd gwyllt a chynnyrch coetir sy’n cael eu defnyddio ar y safle.


Arweinir y cwrs gan Richard Sylvan a weithiodd fel tiwtor ar ein cwrs 12 wythnos diwethaf yn Sir Benfro. Mae ganddo brofiad mewn arwain cyrsiau ar wahanol bynciau gan gynnwys adeiladu naturiol. Mae’n cael ei gefnogi gan Ben Burrage, tyfwr coed crefft a, fel Richard, y mae ganddo ddiddordeb mewn sgiliau coedwig draddodiadol a byw’n fwy cynaliadwy.


Mae gennym amrywiaeth gwych o bobl ar y cwrs gydag amryw o sgiliau a phrofiadau blaenorol. Y mae un ohonynt yn gwirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol felly mae gennynt brofiad mewn agweddau o reoli cefn gwlad. Mae un yn byw yn y pentref eco arloesol, Lammas ac yn gwybod am fyw o’r tir. Mae gan un cefndir mewn therapïau cyfannol  ac a diddordeb mewn coedwigaeth gymdeithasol. Mae un yn wneuthurwr llwyau profiadol ac yn rhannu ei sgiliau gyda gweddill y grŵp. Mae pob un yn edrych i dyfu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o sut i reoli coetiroedd yn gynaliadwy.

Os hoffech chi wybod mwy am gyrsiau sy’n rhedeg yn Sir Benfro, gallwch gysylltu â Nancy, Mentor Sir Benfro: [email protected]

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed