Y mynd a'r dod yn Sir Gaerfyrddin
Written by Tir Coed / Dydd Llun 26 Gorffennaf 2021
Mae 8 wythnos wedi mynd heibio ers i'n Cwrs Gwaith Pren Coetir gychwyn yn Sir Gaerfyrddin, a bu cryn dipyn o fynd a dod dros y pedair wythnos ddiwethaf.
Yn gyntaf, estynnom groeso cynnes iawn i Dan ac Osian, dau hyfforddai newydd sy'n gobeithio dilyn gyrfa yn y sector cadwraeth awyr agored. Yn y cyfamser, ffarweliom ag Oscar, gan ddymuno pob llwyddiant iddo ar ôl iddo sicrhau swydd ym Mharc Gwledig Pen-bre gyda rhaglen Kickstart.
Mae byd natur wedi bod yn brysur hefyd. Mae'r penbyliaid wedi troi'n frogaod bychain ac mae'r titẅod tomos gleision wedi hen adael eu nythod.
Mae ein hyfforddeion wedi cael cyflwyniad i'n gweithlyfrau digidol newydd sbon, ac maent yn llenwi'r rhain law yn llaw â chwblhau elfen ymarferol y cwrs.
Mae'r gwaith wedi bod yn hynod o greadigol wrth i bob hyfforddai dreulio amser yn dylunio gwahanol byrth bwaog o bob math a maint, gyda dylanwadau gan sawl diwylliant o gwmpas y byd. O blith y dyluniadau hyn, dewiswyd un porth bwaog, dyluniad a ysbrydolwyd gan gât Torri Japaneaidd, i'w adeiladu – gan brofi ein sgiliau, ein stamina a'n hamynedd.
Gan ddefnyddio pinwydden Corsica a oedd wedi cael ei chwythu drosodd gan y gwynt, ac a gynaeafom o'r coetir, aethom ati i fesur, llifo a dirisglo'r pren yr oedd ei angen ar gyfer y porth bwaog. Roedd gofyn gwneud gwaith manwl iawn a gwneud cryn dipyn o naddu wrth uno'r darnau ynghyd ar onglau sgwâr gydag uniadau mortais a thyno.
Er gwaethaf y gwaith caled a natur fanwl gywir o sicrhau bod yr onglau'n berffaith, mae'r grŵp wedi bod yn cyd-dynnu'n wych, a bu digon o hwyl, chwerthin a chynorthwyo ei gilydd er mwyn cwblhau'r dasg... heb sôn am lond gwlad o de a chacennau!