Time to Shine - Cynhadledd Lansio

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 14 Chwefror 2018

Cynhaliwyd Cynhadledd dau ddiwrnod Lansio’r Rank Foundation yng Ngwesty’r Midland, Morecambe ar y 16eg a’r 17eg o Ionawr 2018. Roedd yn gyfle gwych i’r cyfarwyddwr, Leila Sharland ac i mi ddysgu am y Rank Foundation, fy interniaeth ac yn gyfle i ni ddysgu awgrymiadau ar sut i ddatblygu perthynas weithio o safon.

Roedd y diwrnod cyntaf yn gyfle i ni gwrdd â’r 15 intern a rheolwr oedd yn mynychu’r gynhadledd ac i ddod i’w hadnabod am y tro cyntaf. Mi fyddwn yn dod i’w hadnabod yn well yn ystod y flwyddyn gan mai hwn oedd y cyntaf o bedwar cynhadledd.

Ar ôl cinio fe rannwyd ni’n ddau grŵp, aeth y rheolwyr i fwynhau Gweithdy ‘Now That’s Different’ ac fe aeth yr internwyr i gymryd rhan yng Ngweithdy Hyfforddiant Ffilm VivdEcho. Ar ôl tiwtorial cyflym rhannwyd ni’n grwpiau llai ac aethom ati i greu ffilm ar y pwnc Interniaeth ‘Time to Shine’.


Y diwrnod wedyn, fe gymrodd yr internwyr ran yng Ngweithdy ‘Now That’s Different’ gyda Steve O’Smotherly. Yn ôl ym mis Rhagfyr roedd yn rhaid i bawb oedd yn mynychu’r gynhadledd gwblhau arolwg byr at bwrpas y rhan hwn o’r gynhadledd. Dywedwyd wrthym fod canlyniadau’r arolwg yn ein gosod yn un o’r pedwar math o bersonoliaeth gweithio wahanol. Roedd y rhain yn rhan o’r Model Pedwar Tymor (Four Seasons Model) sydd wedi’i seilio ar yr egwyddor bod gan bawb ffafriaeth ymddygiadol ble maent yn teimlo fwyaf cyfforddus h.y. fel un o’r ‘Tymhorau’. 

Ar ôl hyn caethom y cyfle i ymuno a’n rheolwyr i drafod y ffafriaeth dymhorol ein gilydd. Dysgodd y broses i ni fod deall ein ffafriaeth a ffafriaeth eraill sy’n gweithio gyda ni yn ein helpu i fod yn weithwyr mwy effeithiol a / neu arweinwyr mwy effeithiol drwy ein galluogi i ddatblygu perthnasau gweithio cryfach a fwy effeithiol.


Wrth i’r digwyddiad ddwyn i ben cawsom wybodaeth am RankNet, rhwydwaith cymdeithasol wedi’i sefydlu gan y Rank Foundation i alluogi internwyr a’i rheolwyr i gyfathrebu, rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am gyllid a chyfleoedd ac i ddysgu o’i gilydd.

Y prif beth sydd wedi aros gyda mi o’r Gynhadledd Lansio yw prif nod y Rank Foundation. Nid buddsoddi mewn elusen / cwmni yw unig yw eu hymagwedd ond buddsoddi yn yr unigolyn. Maent eisiau gwella bywyd yr intern nid yn unig wrth gynnig cyllid ar gyfer ei swydd ond drwy roi sgiliau a phrofiad ychwanegol iddynt er mwyn iddynt allu gwella eu hunain a’r elusen / cwmni maent yn rhan ohono.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed