Time to Shine: Cynhadledd Adolygu Rank

Written by Tir Coed / Dydd Iau 07 Mehefin 2018

Cynhaliwyd Cynhadledd Adolygu Time to Shine yng Ngwesty Low Wood, Windermere o’r 5ed i’r 6ed o Fehefin 2018. Dyma’r ail gynhadledd allan o 3 i gyd y bydda i’n mynychu fel rhan o fy interniaeth.

Unwaith i mi gyrraedd cawsom ginio byr ac yna cawsom gyflwyniad byr i’r 24 awr nesaf. Roedd hwn hefyd yn gyfle i ddod i adnabod y grwpiau elusennol eraill a’u interniaid. Cafodd y siwrnai yno yn llawn oediadau (oherwydd gwasanaethau amnewid bws) ond roedd pawb mewn hwyliau da.


Yna symudodd pawb i ystafell arall ble roedd seminar ar Gyfathrebu mewn Arweinyddiaeth gan Jennifer MacKay. Y brif nod oedd rhoi’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol i ni i ddatblygu perthynas gweithio da gyda phawb yn y lleoliad gwaith (yn enwedig ein rheolwr) a dysgu sut i ymdopi â phroblemau. Edrychwyd ar sut y mae ein meddyliau’n gweithio (drwy ddefnyddio ‘The Chimp Pardox’ ble mae’n frwydr gyson rhwng greddf, rhesymeg a’n profiad blaenorol) a sut, drwy ddod i adnabod ein hunain gallwn ni wella ein hydwythedd drwy reoli ein hamser a’n blaenoriaethau’n well. Fe arweiniodd hyn ni i edrych ar yr ‘Urgent and Important Matrix’ wedi’i lunio gan Stephan Covey sy’n dabl sy’n cael ei ddefnyddio i farnu pa mor bwysig yw tasgau a’n helpu i ddewis beth i flaenoriaethu. Yn olaf, buom yn ffocysu ar sut i reoli ein perthynas gydag eraill yn y gweithle ac yn ystod gwaith grŵp fel wnaethon ymarfer nifer o dechnegau hydwythedd er mwyn ymdrin â phroblemau neu faterion.



Gyda’r hwyr, daeth Caroline Broadhurst i siarad â ni am fentora gyda’r Rank Foundation. Fe esboniodd hi y gallwn ni fod yn fentoriaid am flwyddyn ar ol Time to Shine a gallwn ni cael ein mentora gan rheiny gymrodd rhan yn Time to Shine 2017 ac ar ôl ein blwyddyn ni, os hoffwn ni, gallwn ni fod yn fentor ar rywun mewn grŵp yn y dyfodol. Mae hyn yn rhan o bolisi cefnogaeth a dilyniant y Rank Foundation. Roedden nhw eisiau i ni wybod y gallan nhw ein helpu yn y dyfodol mewn unrhyw lwybr gyrfa rydym ni’n dewis. Roedd hefyd yn gyfle i ni, fel interniaid, i roi rhywbeth yn ôl a defnyddio’r profiad yr ydym wedi’i ennill dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi’r rheiny sy’n cychwyn ar raglen Time to Shine.


Gorffennwyd y noson gyda phryd o fwyd arbenigol. Roedd hyn yn gyfle i ni ymlacio, a hefyd yn rhoi cyfle i ni rannu ein meddyliau a’n syniadau gyda grwpiau eraill y trydydd sector.

Y bore wedyn cawsom frecwast cyn cychwyn ar baratoadau ein harddangosfa gyda Julie Holness. Mae’r arddangosfa yn gyfle i ni ddweud wrth y Rank Foundation am yr hyn yr ydym wedi elwa o Time to Shine dros y flwyddyn ddiwethaf. Mi fydd y digwyddiad ei hun yn digwydd ar ddiwedd y gynhadledd nesaf yn Blackpool ond oherwydd ei gymhlethdod roedd yn bwysig ein bod yn dechrau paratoi nawr. Roedd y seminar yn son am ddatblygu ein sgiliau mewn siarad cyhoeddus ar gyfer yr arddangosfa ac yn gyfle i ni ennill hyder i berfformio’n well yn y byd gwaith. Yn olaf daethom at ein gilydd fel grŵp a phenderfynu sut y byddwn yn cyflwyno ein hunain ym mis Hydref gyda’r gobaith o gwrdd eto i gaboli ein syniadau a’n meddyliau.


Roedd y Gynhadledd Adolygu dipyn yn fwy dwys na’r gynhadledd lansio cyntaf yn ôl ym mis Ionawr. Roedd yn edrych yn fwy ar yr hyn yr ydym wedi’i ennill dros y misoedd diwethaf a dangos i ni sut i ddefnyddio hynny (un ai o fewn yr elusen neu yn allanol). Roedd yn ffocysu ar ddatblygu ein sgiliau a’n gwneud ni’n fwy cyflogadwy er mwyn i ni allu symud ymlaen o raglen Time to Shine ac yn y pen draw bod yn well ar gael ein cyflogi yn y dyfodol.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed