Tir Coed a’r we goed-eang
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 25 Mai 2021
O fis Chwefror tan fis Ebrill, aeth arweinwyr gweithgareddau ardderchog Tir Coed â’i sesiynau coetir ar-lein ac i mewn i gartrefi nifer, fel rhan o’n cynllun cyflwyno Covid.
Dechreuodd tîm Sir Benfro’r cyflwyniadau ar-lein gyda gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu mewn da bryd ar gyfer gwyliau hanner tymor mis Chwefror. Fe wnaethon ni ymuno ag Emily a’i phlant – gwirfoddolwyr ieuengaf Tir Coed, wrth iddyn nhw fynd â ni ar helfa moch daear drwy’r goedwig, yn chwilio am olion a chliwiau eraill wrth fynd. Yn dilyn yr holl gyffro hwnnw, fe eisteddon ni i lawr gyda Tom i greu ein barcud ein hunain yn barod i’w hedfan ar ddiwrnod gwyntog.
Yn Sir Gaerfyrddin, fe wnaethon ni ymuno â Ben yn ei weithdy gartref wrth iddo ddangos dulliau anarferol a diddorol o roi min ar gyllyll. Yn y cyfamser, daeth Peter i ymuno â ni mewn dau leoliad delfrydol, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Pharc Dinefwr, lle bu’n rhannu ei angerdd am nifer o bynciau, o ecoleg i hanes.
I ychwanegu at y cyfan, aeth Cath a Stevie o Geredigion â ni ar daith o gwmpas y goedwig yng Nghoed Tyllwyd, lle y cawson ni ambell gyngor gwych yn ymwneud ag adnabod coed yn y gaeaf a mewnwelediad i’r defnydd o gynnyrch naturiol a gyrfaoedd ym maes coetiroedd, gan ddangos sut y gallwn droi ein cariad at goed yn fywoliaeth.
Er gwaethaf ambell her dechnegol ar hyd y ffordd, cafodd y sesiynau dderbyniad da, gyda nifer sylweddol yn bresennol, a nifer o wynebau cyfarwydd yn ymuno â ni o un wythnos i’r llall. Roedd gweld cymaint o gyn hyfforddai yn hyfryd, yn ogystal â derbyn cymaint o gefnogaeth gan aelodau o staff ar draws y sefydliad gan danlinellu’r ymdeimlad o gymuned o fewn Tir Coed.
“Roeddwn i wrth fy modd â’r sesiynau ar-lein. Diolch i’r holl arweinwyr gweithgareddau am eu cyflwyniadau ardderchog – cysylltiad â’r we ai peidio,” meddai un cyn hyfforddai a ymunodd â’r sesiynau ar-lein.
A chan fod gormod i’w crybwyll yma, gellir gweld yr uchafbwyntiau ar ein sianel YouTube er mwyn helpu i’n hysbrydoli, herio a’n hysgogi ni i gyd cyn ein taith nesaf i’r goedwig.