Tir Coed yn parhau i gefnogi’r gymuned, diolch i arian y Loteri Genedlaethol
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 02 Mai 2023
Mae Tir Coed yn Aberystwyth yn helpu eu cymuned i addasu, adfer a ffynnu, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, trwy cyflwyno prosiect bwyd, tyfu a gwirfoddoli mewn partneriaeth â Hyb Cymunedol Penparcau i ddatblygu eu gardd gymunedol. Bydd yn darparu adnoddau bwyd ffres i’r gymuned, yn darparu cyfleoedd addysgol i oedolion a phlant allu gweld o ble mae eu bwyd yn dod. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i drigolion gymryd rhan yn y gwaith o blannu, cynnal a chynaeafu’r cnydau bwyd a blannwyd yno, yn ogystal â darparu mannau gwyrdd a hamdden.
Derbyniodd Tir Coed £9,950 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Al Pritchard, mentor Ceredigion yn Tir Coed : “Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r prosiect hwn ar gyufer y gymuned a chryfhau ein partneriaeth gyda Hwb Cymunedol Penparcau. Mae’r cyllid hwn mor bwysig ar gyfer datblygiad parhaus yr ardd gymunedol, adnodd gwych a fydd yn darparu buddion cymdeithasol a lles i bawb”.
I ddarganfod mwy am ymgeisio am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi eich cymuned, ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk/cymru.
Gwybodaeth pellach:
Al Prichard
07376299354 / [email protected]