Llwyddiant Ariannol Tir Coed
Written by Tir Coed / Dydd Iau 07 Mehefin 2018
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus gyda’n cais diweddaraf i Gronfa’r Loteri Fawr i i ymestyn y prosiect LEAF o 2 flynedd i 5 mlynedd ac i gynnal peilot o’n model hynod lwyddiannus yn Sir Gaerfyrddin hefyd! I unrhyw un sydd angen eu hatgoffa, mae’r prosiect LEAF (Dysgu i Alluogi Cyflawniad a Boddhad) yn creu cyfleoedd i bobl gael mynediad i weithgareddau lles wedi’u teilwra yn y goedwig, cyrsiau hyfforddi mewn sgiliau coetir, wythnos o hyfforddiant dilynol mewn gweithgareddau sector penodol, mentora, lleoliadau gwaith a chefnogaeth ar gyfer mentrau coetir sy’n ffynnu. Mae’r model yn gweithio mor dda, mae’r cyfranogwyr wedi nodi’r newidiadau cadarnhaol sydd wedi digwydd yn eu bywydau - o gynnydd yn eu hunan-barch i greu rhagolygon cyflogaeth - ac rydym yn falch iawn bod 2800 o gyfranogwyr yn gallu buddio o’r prosiect.
Rydym wedi derbyn £532,500 i gyflwyno prosiect LEAF ar draws Ceredigion, Powys, Sir Benfro a Sir Gâr.
Da iawn i Leila, a wnaeth arwain y rhaglen codi arian llwyddiannus yn ystod 2017!