Mae Tir Coed yn mynd yn ddigidol gyda chymhwyster newydd
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 23 Mehefin 2021
Mae Tir Coed ail-lunio’r modd yr ydym yn meddwl am gefnogi a hybu sgiliau awyr agored a thraddodiadol drwy lansio cymhwyster newydd a gwerslyfr digidol ar gyfer pobl sy’n mynychu’r cyrsiau.
Wedi pum mlynedd o waith cynllunio, Tir Coed wedi datblygu cymhwyster sgiliau coetir cydnabyddedig, gan sicrhau bod hyfforddai llwyddiannus yn ennill cymhwyster ffurfiol fel cydnabyddiaeth o’u gwaith caled ac ar yr un pryd yn hybu eu cyfleoedd cyflogaeth i’r dyfodol.
Gyda darpariaeth Lefel 1 a 2, ac opsiynau i ennill cymhwyster estynedig neu dystysgrif, gall hyfforddai ennill cymhwyster sy’n gyfwerth â gradd TGAU uchel drwy fynychu rhaglen 12-16 wythnos o gyrsiau Tir Coed.
Datblygwyd y cymhwyster newydd drwy ddefnyddio gwerslyfrau digidol sydd wedi eu creu’n arbennig, gyda’r holl waith cwrs a’r profion yn cael eu cynnal ar dabledi electronig wedi eu cyflenwi gan yr elusen. Drwy gyfuno sgiliau awyr agored traddodiadol â’r dechnoleg ddiweddaraf mae modd cynyddu cynhwysiant a hwylustod defnydd yn y coetiroedd gan helpu hyfforddai i ymgyfarwyddo â defnyddio’r offer TG diweddaraf mewn lleoliad gwaith.
Meddai Ffion Farnell, Prif Swyddog Gweithredol Tir Coed, “Rydym wrth ein bodd o fod yn lansio ein cyrsiau newydd drwy gynnig cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol i’n hyfforddeion.
“Mae’r gwerslyfrau digidol newydd, a gynlluniwyd i hybu cynhwysiant, creadigrwydd a mwynhad, yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ddysgwyr wrth weithio tuag at eu cymhwyster a hefyd hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg fodern mewn lleoliad sgiliau traddodiadol.
“Golyga’r defnydd o werslyfrau digidol y gallwn barhau i hyfforddi o bell petai ni’n ddigon anffodus i orfod wynebu cyfnod clo arall yn y dyfodol.
“Mae’r amrywiaeth o unedau sydd ar gael drwy gyfrwng ein hyfforddiant cynhwysfawr a rhaglenni dilyniant yn golygu’r mwyaf y byddwch yn eu mynychu, y gorau fydd eich profiad ymarferol, a’r uchaf eich cymhwyster.”
Mae’r hyfforddeion diweddaraf yn gweithio tuag at ennill eu cymwysterau drwy ddefnyddio iPads dros gyfnod y cwrs.
Mae Tir Coed yn hynod ddiolchgar o gefnogaeth Rhwydwaith Dysgu Awyr Agored Cymru am ychwanegu unedau coetir yr elusen at y cymhwyster Dysgu yn yr Awyr Agored hir sefydledig.
Dymuna Tir Coed ddiolch hefyd i Cynnal Y Cardi (LEADER Ceredigion) am ariannu datblygiad y gwerslyfrau digidol, a chwe iPad yng Ngheredigion. Hefyd, i gronfa Cymuned y Loteri Genedlaethol am gefnogi amser staff i ddatblygu’r cymhwyster fel rhan o gymhwyster Prosiect LEAF Tir Coed.