Dathliad Pen-blwydd Tir Coed yn 25 oed ym Mharc yr Esgob
Written by Tir Coed / Dydd Llun 09 Rhagfyr 2024
Fe wnaethom barhau â'n dathliadau 25 mlynedd ym Mharc yr Esgob, Sir Gaerfyrddin. Er gwaethaf y tywydd gwael, a rwystrodd llawer o’n tîm staff a’n sefydliadau partner rhag gwneud y daith i’r digwyddiad, cafodd y rhai a wynebodd y gwynt a’r glaw groeso cynnes a diwrnod gwych o weithgareddau.
Roedd y digwyddiad yn orlawn ag amrywiaeth o weithdai awyr agored, gan gynnwys cerfio llwyau, gwneud modrwyau pren, crefft gwellt a gwehyddu helyg, ac wrth gwrs mwy o gacennau! Roedd yn galonogol gweld cymysgedd o hyfforddeion y gorffennol a newydd-ddyfodiaid i Tir Coed yn mwynhau’r achlysur. Roedd gweld dau o’n cyn-hyfforddeion, Dan a Peter, yn arwain y gweithdy cerfio llwyau yn arbennig o werth chweil. Roedd y sgiliau a’r hyder y maent wedi’u datblygu yn ystod eu hamser gyda Tir Coed yn wirioneddol ysbrydoledig i’w gweld,
“Roeddwn i’n meddwl y byddai cynnal y gweithdy cerfio llwyau yn gyfle da i roi yn ôl a throsglwyddo rhai o’r sgiliau roeddwn i wedi’u dysgu o gyrsiau Tir Coed blaenorol. Yn y prynhawn, daeth dwy ferch draw – cawsant amser gwych – ac aethant i ffwrdd fel troedigion newydd i gerfio, yr un peth yn union a ddigwyddodd i mi ar ôl fy nghwrs Tir Coed cyntaf.”
Dan, Hyfforddai Tir Coed Blaenorol
Roedd Parc yr Esgob, cartref Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, yn lleoliad gwych ar gyfer y digwyddiad. Anogwyd y cyfranogwyr a’r mynychwyr i ddod mewn i gynhesu ac i weld rhai enghreifftiau hanesyddol o’r crefftau treftadaeth yr oeddent yn rhoi cynnig arnynt, gan gynnwys cesig medi, llwyau cariad Cymreig a basgedwaith helyg.
Rhannodd Anne May, Swyddog Ymgysylltu ar gyfer y Prosiect Gardd Furiog yn Ymddiriedolaeth Porth Tywi sy’n rheoli Parc yr Esgob, ei barn ar y diwrnod:
“Roedd cyfranogwyr o bob cefndir yn bresennol, gan gynnwys ychydig o drigolion Abergwili, rhai o wirfoddolwyr Parc yr Esgob a grŵp gwirfoddolwyr dan hyfforddiant, ynghyd â grŵp o blant ysgol gartref gyda’u rhieni. Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y cyfranogwyr yn hynod gadarnhaol ac aeth pobl adref gyda llond llaw o anrhegion Nadolig pwrpasol a oedd yn cynnwys matiau diod rhisgl helyg, madarch pren cerfiedig a thorchau helyg.
Yn ystod y gweithdai, rhoddwyd arddangosiadau a chyfarwyddiadau clir ar sut i ddefnyddio offer miniog yn ddiogel, trwy bwyntio llafn y gyllell oddi wrthych bob amser a symud y pren yn ôl, gan ddal y llafn yn ei le. Rhoddwyd gofal mawr i sicrhau bod pawb yn teimlo'n hyderus i barhau â'u tasgau dewisol yn annibynnol, gan wybod bod cymorth wrth law os oedd angen. Er bod diogelwch yn amlwg wedi cael ei ystyried yn drylwyr iawn, roedd profiad helaeth y tîm yn sicrhau awyrgylch a oedd yn gynnes, yn dawel ac yn ymdrochol.
Ar y cyfan, roedd yn brofiad pleserus iawn, ac yn un a amlygodd y potensial ar gyfer gwaith partneriaeth pellach. Gobeithiwn y cawn gyfle i wahodd Tir Coed yn ôl i’r parc – mewn amodau mwy ffafriol – yn fuan.”
Er gwaethaf y tywydd heriol, roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd, yn dathlu llwyddiannau Tir Coed ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i bawb a oedd yn bresennol ac a wnaeth y diwrnod yn un arbennig.
Wrth i ni barhau â'n dathliadau pen-blwydd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gysylltu pobl â'r awyr agored, hyrwyddo byw'n gynaliadwy a chefnogi datblygiad sgiliau gwerthfawr. Diolch am fod yn rhan o daith Tir Coed.
Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o effaith gadarnhaol!