Prif Weithredwr Tir Coed yn rhoi'r gorau i'r swydd ar ôl gwneud cyfraniad rhagorol i ddatblygiad y sefydliad

Written by Tir Coed / Dydd Llun 16 Mai 2022

Bydd Ffion Farnell, Prif Swyddog Gweithredol Tir Coed, yn rhoi'r gorau i arwain y sefydliad yn yr Hydref ar ôl treulio 12 mlynedd gyda'r sefydliad – naw mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredol, blwyddyn fel Swyddog Datblygu a dwy flynedd bellach yn darparu gweithgareddau coetir.  Yn ystod ei chyfnod gyda'r elusen, mae tua 8,000 o bobl wedi cael eu cynorthwyo, y mae nifer ohonynt wedi symud ymlaen i fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant.


Yn ystod arweinyddiaeth Ffion, mae'r sefydliad wedi mynd o nerth i nerth, gan lwyddo i ddarparu ystod eang o brosiectau addysgol, hyfforddiant a lles cymunedol ar draws Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys, a chynyddu'r trosiant o £207,305 yn 2012 i oddeutu £600,000 eleni.  Mae tîm y staff wedi tyfu hefyd, o bedwar i 30 rôl. 

Mae Ffion wedi gwneud gwaith diflino i arwain, siapio, symleiddio a hyrwyddo'r sefydliad ac mae wedi ffurfio partneriaethau gwaith arloesol gyda rheolwyr tir mawr ym mhrosiect Elan Links, gyda'r Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol wrth sefydlu Dysgu am Natur, a gyda sefydliadau adfywio ar lawr gwlad ar draws Cymru fel rhan o brosiect Llechi Glo a Chefn Gwlad, i enwi rhai yn unig. 

Mae ei dawn ym maes dylunio a chyfathrebu wedi siapio brand trawiadol Tir Coed a'i fodelau ymgysylltu a dilyniant unigryw.  Mae hi wedi diogelu'r sefydliad ar gyfer y dyfodol hefyd trwy ddatblygu rhaglen AnTir newydd Tir Coed, a fydd yn ehangu darpariaeth y sefydliad o weithgareddau hyfforddiant a lles sy'n seiliedig ar y tir er mwyn cynnwys arferion tir adfywiol a thyfu bwyd, yn ogystal â sgiliau rheoli ystad a choetir. 

Mae gwybodaeth Ffion a'i chariad tuag at gefn gwlad Cymru wedi sicrhau bod datblygiadau Tir Coed yn rhai adweithiol i'r cymunedau lleol y mae'n bodoli i'w gwasanaethu, gan ddatblygu enw da fel elusen sy'n gynhwysol, sy'n flaengar ac sy'n ymgysylltu'n llawn gyda'r gymuned leol.

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Adrian Wells:  “Ers iddi ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithredol yn 2013, mae Ffion wedi gwneud cyfraniad aruthrol i Tir Coed, gan dyfu'r sefydliad o fod yn bartneriaeth leol gyda chymorth statudol i fod yn elusen ranbarthol gyflawn sy'n cael effaith enfawr ar fannau lleol a bywydau pobl leol.  Mae hi'n gadael yr elusen mewn sefyllfa gadarn iawn ac rydym yn hynod ddiolchgar iddi am ei holl waith.  Mae'n ddrwg iawn gennym ei gweld yn gadael.”

Dros y misoedd nesaf, bydd Ffion yn parhau i wneud gwaith rhan-amser wrth drosglwyddo'r cyfrifoldeb i'r tîm rheoli uwch.  Bydd hi'n arwain y broses o chwilio am Brif Swyddog Gweithredol newydd talentog, profiadol ac angerddol hefyd.



Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed