Cwrs Hyfforddi o Safbwynt Intern
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 29 Mai 2018
Fel rhan o fy interniaeth rwy’n edrych ar gyfuno beth mae Tir Coed yn gwneud ar hyn o bryd yn nhermau rheoli coetiroedd gydag elfen o arddwriaeth/amaethyddiaeth mewn ymdrech i arallgyfeirio nodau ac amcanion Tir Coed.
Mewn ymdrech i gynorthwyo gyda hyn, teimlais ei fod yn hanfodol fod gen i ddealltwriaeth gadarn o’r cyrsiau mae Tir Coed yn eu cynnig ar hyn o bryd ac felly'r ffordd orau i wneud hyn yw bod yn gyfranogwr. Rhoddodd hyn fewnwelediad unigryw gan fy mod i’n gyfranogwr ac yn rhywun sy’n gweithio i Tir Coed. Roeddwn i’n gallu gweld sut oedd y cyrsiau’n cael eu datblygu tu ôl i’r llen a sut yr oedd yn cael ei gyflwyno mewn sefyllfa go iawn.
Des i’n gyfranogwr ar gwrs Rheoli Coetir yn Gynaliadwy yng Ngheredigion yng Nghoed Ty Llwyd, y tu allan i Lanfarian. Rhoddodd y 12 wythnos brofiad ymarferol i’r cyfranogwyr o reoli coetir a chynaliadwyedd. Cawsant hefyd y cyfle i greu gosodiadau e.e. adeiladu turn polyn, a chreu eitemau gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Tra’r oedd y cyfranogwyr yn datblygu’r sgiliau hyn roedd opsiwn iddynt gwblhau achrediad (mewn ffurf unedau Agored Cymru) a fyddai’n gwella eu CV. Er mwyn cwblhau’r unedau hyn, roedd angen iddynt gofnodi’r gwaith a’r cynnydd mewn llyfrau gwaith oedd yn gofnod ac yn ddarlun o’r hyn y gwnaethant gyflawni fyddai’n berffaith i’w ddangos i gyflogwyr posib.
Tra ro’n i ar y cwrs, cefais fewnwelediad i’r ffordd yr oedd y cyfranogwyr yn datblygu. Fe wnaeth hyder pob un o’r cyfranogwyr dyfu, nid yn unig yn y sgiliau yr oeddent yn datblygu ond hefyd yn bersonol, wrth iddynt gyfathrebu gyda’r bobl o’u cwmpas. Datblygodd y grŵp berthynas da ac roeddent yn gweithio’n annibynnol ond hefyd yn helpu ei gilydd. Wrth i’r cyfranogwyr ddatblygu sgiliau, roeddent yn dechrau mentro, a chanfod y camau nesaf oedd eu hangen i ddatblygu ei eitem grefft. Ar y dechrau, roeddent yn wyliadwrus o wneud camgymeriadau ac ofn dweud yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu, ond erbyn diwedd y cwrs roeddent yn credu yn yr hyn y gallant wneud ac ar ôl ychydig wythnosau, roeddent yn awyddus i ddechrau ar y gwaith.
O fy safbwynt i roedd yn rhyfedd fod yn y sefyllfa hon. Dechreuais weithio gyda Tir Coed ychydig fisoedd ar ôl i mi gael fy ystyried yn berson nad sydd mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ac mi allwn i fod wedi bod yn gyfranogwr ar y cwrs hwn. Roedd hynny’n rhoi mewnwelediad unigryw i mi i’r sefyllfa. Roedd modd i mi weld y cwrs o sefyllfa’r cyfranogwr ac fel aelod o staff - yn y ddwy achos, gallwn weld fod y cwrs wedi’i redeg yn dda ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfranogwyr.
Rhoddodd y cwrs hwn fewnwelediad i’r ffordd y mae cyrsiau’n cael eu hadeiladu, eu rheoli ac yn bennaf eu cyfieithu o’r papur i fywyd go iawn. Roedd hefyd yn dangos pwysigrwydd yr achrediad fel mwy na phrofi gwybodaeth, ond hefyd er mwyn cynnig dilyniant i gyflogaeth posib (neu ddatblygu sgiliau pellach ). Mae’r profiad hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi wrth i mi fynd ati i ddatblygu prosiect garddwriaeth yn y dyfodol.