Rhaglen hyfforddi ar y gweill yn dda
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 02 Rhagfyr 2022
Mae Tir Coed yn falch iawn o groesawu chwe aelod i’r rhaglen hyfforddi 20 wythnos newydd ym Mhowys.
Fe wnaethom ni ddechrau hyrwyddo a hysbysebu’r cwrs ym mis Awst, ac roeddem ni wrth ein bodd gyda’r ymateb cadarnhaol a gafwyd, gyda chymaint o bobl o gefndiroedd amrywiol iawn yn cysylltu i ofyn am leoedd.
Roed Ben, mentor Powys, wrth ei fodd pan glywodd rieni a hyfforddwyr tîm pêl-droed ei fab yn trafod y cwrs.
Yr elfen anoddaf oedd wrth i Ben a Gayle, cydlynydd Powys, geisio dod â nifer y ceisiadau i lawr o 30 yn y lle cyntaf i 12 erbyn y diwrnod dethol, ond roedd ansawdd y ceisiadau mor dda, penderfynwyd gwahodd 14 i’r sesiwn gychwynnol.
Er bod y broses ddethol yn brofiad newydd i bawb – gan gynnwys y tîm Tir Coed, roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda’r ymgeiswyr aflwyddiannus hyd yn oed yn dweud eu bod wedi mwynhau’r diwrnod ac y byddent yn awyddus i weithio gyda Tir Coed ar brosiectau yn y dyfodol.
Gyda’r chwe hyfforddai terfynol yn eu lle, dechreuodd wythnos gyntaf y prosiect fel pob prosiect Tir Coed arall – gyda phaned a sgwrs.
Yn dilyn sesiwn anwytho ar eu bore cyntaf, aeth y tîm i lawr i’r safle i drafod yr hyn yr oedden nhw’n gobeithio ei gyflawni dros yr 20 wythnos nesaf.
Roedd pawb yn gytûn y byddai angen llawer o waith called i gyflawni’r prosiect i adeiladu ramp hygyrchedd, ond nid oedd unrhyw amheuaeth y byddai’r gwaith yn rhoi llawer iawn o foddhad iddynt.
Bellach, a ninnau wedi cwblhau tair wythnos o’r prosiect, mae popeth yn mynd yn dda: mae’r rhan fwyaf o’r pyst bellach yn eu lle ac mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i fesur yr hyn a fydd yn cynnal y llawr.
Mae pawb yn dal i deimlo’n frwdfrydig dros y prosiect, ac nid yw’r gwynt a’r glaw hyd yn oed wedi lleddfu’r ysbryd.
Mae pobl yn aml yn stopio i holi am y prosiect wrth fynd heibio, ac rydym ni’n falch iawn o weld pob un o’r cyfranogwyr yn egluro’r cynlluniau gyda balchder ar wahanol adegau.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld y ramp yn datblygu,” meddai Ben, “ ac i weld yr ymdeimlad o lwyddiant sydd eisoes yn dechrau ymledu ymysg cyfranogwyr.”